Tŷ Melyn
Mae pump ystafell gynadledda ysblennydd yn Dŷ Melyn
Maent yn amrywio mewn maint o ystafell fwrdd ar gyfer wyth o gynadleddwyr, i ystafell mewn arddull theatr i gant a deg o gynadleddwyr.
Mae golygfeydd ysblennydd, taflunydd, sgriniau ac offer aml-gyfryngol gan bob ystafell.
Lleoliad ardderchog, addas ar gyfer:
- Cynadleddau
- Cyfarfodydd Bwrdd
- Diwrnodau Hyfforddiant
- Seminarau
- Lansiadau Cynnyrch
- Cyflwyniadau
- Arddangosiadau
- Arddangosfeydd
Os oes diddordeb gennych mewn archebu ystafell yn Y Tŷ Melyn, cysylltwch â Sarah Williams ar 01558 667114 os gwelwch yn dda
Yr unig ran o blasty William Paxton sydd yn weddill heddiw yw’r adeilad trawiadol hwn. Bragdy, golchdy a cheginau oedd yma. Ar ôl goroesi’r tân ym 1931, a ddistrywiodd y prif blasty, daeth yr adeilad hwn yn ffermdy o’r enw Trawscoed.