*WEDI GWERTHU ALLAN* Cwrs Garddio Hawdd Heb Balu

Sad 27 Gorff 2024 12:51yb - 12:51yb Am ddim gyda mynediad

Garddio Hawdd Heb Balu

Dysgwch sut i drefnu a chynnal gardd gynhyrchiol, organaidd heb balu ar gyfer llysiau, coed ffrwythau, perlysiau a blodau beth bynnag yw maint y darn; creu compost, ymestyn y tymor tyfu, garddio ar gyfer bywyd gwyllt, ffyrdd naturiol sy’n garedig i fywyd gwyllt i reoli plâu, plannu drwy’r flwyddyn, lleihau chwynnu a defnyddio tomwellt.

Bydd y gweithdy’n cynnwys arddangosiadau ymarferol, sleidiau a digon o amser ar gyfer eich holl gwestiynau.

Cost

£20 sy’n cynnwys mynediad i Ardd Fotaneg Genedlaethol Cymru. *WEDI GWERTHU ALLAN*

Ynglŷn â hyfforddwr eich cwrs

Mae Stephanie Hafferty yn arbenigwraig flaenllaw ar arddio heb balu, yn ymgynghorydd ar erddi bwyd, ac wedi bod yn tyfu ei bwyd ei hun ers dros ddeng mlynedd ar hugain. Yn osgystal â thyfu yn ei chartref ac ar leiniau garddio, mae wedi creu gerddi cegin ar ystadau preifat, i dai bwyta, gerddi cymunedol a gerddi masnachol. Mae’n arbenigo ar dyfu mewn mannau domestig, dysgu ac ysgrifennu am y ffordd i dyfu bwyd drwy’r flwyddyn. Mae’n ysgrifennu am arddio a bwyd i gyhoeddiadau rhyngwladol a ffordd o fyw. Mae ganddi flog rheolaidd, dau lyfr wedi’u cyhoeddi, gan gynnwys No Dig Organic Home and Garden (gyda Charles Dowding) sydd wedi ennill gwobrau, ac ar hyn o bryd mae’n gweitho ar ddau lyfr arall.

Diogelwch COVID-19

Mae gennym ddyletswydd gofal i sicrhau eich diogelwch yn ystod y cwrs hwn, gyda rhagofalon cadw pellter cymdeithasol a hylendid mewn lle. Mae croeso i chi wisgo’ch mwgwd wyneb a’ch menig eich hun – ni fydd y rhain yn cael eu darparu. Oherwydd y cyfyngiadau presennol, ni allwn gynnig lluniaeth, felly dewch â bwyd a diod eich hun os gwelwch yn dda, fel arall, mae croeso i chi ddefnyddio caffis yr Ardd Fotaneg.

Tyfu’r Dyfodol

Cyflwynir y cwrs hwn fel rhan o brosiect Tyfu’r Dyfodol yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru.

Mae’r prosiect hwn wedi derbyn cyllid trwy Raglen Datblygu Wledig 2014-2020 – Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru, a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Ardaloedd Gwledig, a Llywodraeth Cymru.