Tyfu’r Dyfodol
Mae prosiect Tyfu’r Dyfodol yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru yn gweithio i ddathlu garddwriaeth Cymru, i ddiogelu bywyd gwyllt ac i bwysleisio holl fanteision tyfu planhigion – i’w bwyta, i roi hwyl inni ac i gyfrannu at ein lles a’n hiechyd.
P’un a ydych yn arddiwr profiadol, yn dyfwr dibrofiad neu’n ddarpar wenynwr – rydym am helpu i roi hyfforddiant, gwybodaeth a chymorth i chi.
Rydyn ni’n gweithio mewn partneriaeth â: Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru; Canolfan y Dechnoleg Amgen, Machynlleth; Cwrt Insole, Llandaf; Gardd Fotaneg Treborth, Prifysgol Bangor; Canolfan Crefftau’r Goedwig, Sir Ddinbych a Gardd Gymunedol Clydach, Abertawe.
Y Weledigaeth
Mae tri phwyslais i’r prosiect, a’r gobaith yw y bydd y negeseuon a’r profiadau ym mhob un yn cael dylanwad hirdymor ar draws Cymru gyfan.
Gerddi er ein Lles a’n Hiechyd
Dyma neges sy’n werth ei gwaeddu i’r uchelderau: byddwch yn hapus, gofalwch am eich iechyd, ewch mas i arddio. Mae gan erddi rhan bwysig i’w chwarae yn iechyd ein hamgylchedd hefyd, gan eu bod yn gallu cynnig cynefinoedd da i fywyd gwyllt a lleihau llygredd.
Dathlu Garddwriaeth Cymru
Byddwn yn tynnu sylw at waith meithrinfeydd arbenigol sy’n datblygu planhigion a blodau unigryw a hefyd tyfwyr masnachol sy’n cynhyrchu ffrwythau a llysiau o’r safon gorau. Trwy gyfres o ddigwyddiadau cyffrous byddwn yn amlygu amrywiaeth ac ansawdd cynnyrch garddwriaethol Cymru.
Garddwriaeth i’r Dyfodol
Gallwn sicrhau dyfodol disglair i erddi, bywyd gwyllt a’r blaned gyfan trwy ddatblygu rhwydweithiau effeithiol rhwng garddwriaeth a gwyddoniaeth. Mae’r Ardd mewn sefyllfa ardderchog i gysylltu’r ddwy ddisgybliaeth. Byddwn yn datblygu ‘cynllun sicrwydd’ wedi ei seilio ar dystiolaeth o’n hymchwil ar beillwyr a fydd yn galluogi amrywiaeth eang o blanhigion sydd wedi eu tyfu mewn dull cynaliadwy yng Nghymru ddod yn ‘Blanhigion i Beillwyr’ swyddogol.
Dilynwch ni
Dilynwch brosiect Tyfu’r Dyfodol ar Facebook, Twitter, Instagram a YouTube. Er mwyn derbyn y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf ar gyrsiau a digwyddiadau’r prosiect, cofrestrwch i dderbyn ein cylchlythyr wythnosol. Os hoffech gysylltu â’r prosiect, e-bostiwch gtf@gardenofwales.org.uk os gwelwch yn dda.
Mae’r prosiect hwn wedi derbyn cyllid trwy Raglen Datblygu Wledig 2014-2020 – Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru, a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Ardaloedd Gwledig, a Llywodraeth Cymru.