Taith Tu ôl i’r Llen – Yr Ardaloedd Tyfu Planhigion

Gwen 02 Awst 2024 1yh - 2yh Archebwch yma

Dewch i ymuno â ni am daith y tu ôl i’r llenni o’r Ardaloedd Tyfu Planhigion.

Archwiliwch y meithrinfeydd lle mae planhigion yn cael eu tyfu ar gyfer yr Ardd Fotaneg a lle mae planhigion prin yn cael eu cartrefu. Mae meithrinfeydd yr Ardd Fotaneg yn llawn planhigion hynod ddiddorol o bob cwr o’r byd, ac mae’r daith unigryw hon yn rhoi cipolwg i chi ar sut mae garddwriaethwyr profiadol yn gofalu am y planhigion hyn. Hefyd, darganfyddwch y rhan rydyn ni’n ei chwarae wrth dyfu planhigion prin yng Nghymru a sut rydyn ni’n diogelu’r planhigion hyn ar gyfer y dyfodol.

 

Mae’r daith hon am 1yp a bydd yn para awr.

Mae’r daith yn dechrau y tu allan i’r Neuadd Apothecari.

Codir tâl o £7 i aelodau a £8 i bob ymwelydd arall.

Mae archebu’n hanfodol ar gyfer y daith hon gan fod lleoedd yn gyfyngedig.

Mae’r daith hon er budd y Cynllun Gerddi Cenedlaethol, sy’n un o’r partneriaid ar gyfer ein Prentisiaeth mewn Garddwriaeth Fotanegol.

Mae mynediad arferol i’r Ardd hefyd yn berthnasol.

Cofiwch y gallwch ddefnyddio ein tocyn ‘bwmerang’ saith diwrnod arbennig i ddod yn ôl gymaint o weithiau ag y dymunwch, am saith diwrnod ar ôl eich ymweliad cychwynnol, y talwyd amdano.

Upcoming Dates

  1. Gwen 02 Awst 2024
    1yh - 2yh
  2. Gwen 06 Medi 2024
    1yh - 2yh
  3. Gwen 04 Hyd 2024
    1yh - 2yh
  4. Gwen 01 Tach 2024
    1yh - 2yh