Dewch i ymuno â ni am daith y tu ôl i’r llenni o’r Tŷ Gwydr Mawr.
Archwiliwch y lefel tanddaearol hwn a dysgwch fwy am sut mae’r adeilad eiconig hwn yn cael ei redeg, ei gynnal a’i gynhesu. Bydd aelod o’r tîm cynnal a chadw yn arwain taith drwy doreth o goridorau ac yn mynd i mewn i ardal sy’n wahanol iawn i’r hyn y mae ymwelwyr yn ei weld uchod.
Mae’r daith hon am 11yb a bydd yn para awr.
Mae’r daith yn cychwyn wrth fynedfa orllewinol y Tŷ Gwydr Mawr.
Codir tâl o £4 i aelodau a £5 i bob ymwelydd arall (mae plant ac oedolion yr un pris).
Archebwch yma
Mae archebu’n hanfodol ar gyfer y daith hon gan fod lleoedd yn gyfyngedig.
Mae’r daith hon er budd y Cynllun Gerddi Cenedlaethol, sy’n un o’r partneriaid ar gyfer ein Prentisiaeth mewn Garddwriaeth Fotanegol.
Mae mynediad arferol i’r Ardd hefyd yn berthnasol.
Cofiwch y gallwch ddefnyddio ein tocyn ‘bwmerang’ saith diwrnod arbennig i ddod yn ôl gymaint o weithiau ag y dymunwch, am saith diwrnod ar ôl eich ymweliad cychwynnol, y talwyd amdano.