Taith Tu ôl i’r Llen – Dan y Tŷ Gwydr Mawr

Gwen 02 Awst 2024 11yb - 12yh Book here

Dewch i ymuno â ni am daith y tu ôl i’r llenni o’r Tŷ Gwydr Mawr.

Archwiliwch y lefel tanddaearol hwn a dysgwch fwy am sut mae’r adeilad eiconig hwn yn cael ei redeg, ei gynnal a’i gynhesu. Bydd aelod o’r tîm cynnal a chadw yn arwain taith drwy doreth o goridorau ac yn mynd i mewn i ardal sy’n wahanol iawn i’r hyn y mae ymwelwyr yn ei weld uchod.

Mae’r daith hon am 11yb a bydd yn para awr.

Mae’r daith yn cychwyn wrth fynedfa orllewinol y Tŷ Gwydr Mawr.

Codir tâl o £7 i aelodau a £8 i bob ymwelydd arall.

Mae archebu’n hanfodol ar gyfer y daith hon gan fod lleoedd yn gyfyngedig.

Mae’r daith hon er budd y Cynllun Gerddi Cenedlaethol, sy’n un o’r partneriaid ar gyfer ein Prentisiaeth mewn Garddwriaeth Fotanegol.

Mae mynediad arferol i’r Ardd hefyd yn berthnasol.

Cofiwch y gallwch ddefnyddio ein tocyn ‘bwmerang’ saith diwrnod arbennig i ddod yn ôl gymaint o weithiau ag y dymunwch, am saith diwrnod ar ôl eich ymweliad cychwynnol, y talwyd amdano.

Upcoming Dates

  1. Gwen 02 Awst 2024
    11yb - 12yh
  2. Gwen 06 Medi 2024
    11yb - 12yh
  3. Gwen 04 Hyd 2024
    11yb - 12yh
  4. Gwen 01 Tach 2024
    11yb - 12yh