Menywod Ysbrydoledig mewn Garddwriaeth: Sarah Price

Sad 27 Gorff 2024 9:35yb - 9:35yb Am ddim gyda mynediad

Menywod Ysbrydoledig mewn Garddwriaeth: Sarah Price

Ar dri Dydd Gwener ym mis Ionawr, bydd Tyfu’r Dyfodol yn cynnal cyfres o sgyrsiau gyda marched sydd wedi ysbrydoli mewn garddwriaeth, gan gynnwys agweddau ar eu gyrfaoedd a’u diddordebau garddwriaethol.

Dewch i ddysgu mwy am y gwaith ymchwil gwyddonol a’r datblygiadau garddwriaethol yn yr Ardd Fotaneg, gyda sgyrsiau cyflwyno gan Ymchwilwyr PhD a Garddwraig yr Ardd.  Cewch fwynhau’r gyfres hon AM DDIM a hefyd fanteisio ar fynediad i’r Ardd AM DDIM yn ystod dyddiadau’r wythnos ym mis Ionawr.

‘Plants First’ gan Sarah Price

Mae Sarah yn credu mewn dylunio’n seiliedig ar blanhigion.  Mae’n datblygu gerifa gan ddefnyddio planhigion, eu siapiau, eu ffurfiau a’u patrymau i gyfansoddi ei dyluniadau.  Drwy drosolwg o waith y gorffennol a’r presennol bydd yn rhoi enghreifftiau gwirioneddol ac yn dangos sut mae ei phrosesau dylunio’n gweithio.

Yn wreiddiol, cafodd Sarah ei hyfforddi mewn cefyddyd gain, ac ar ôl graddio gyda gradd dosbarth cyntaf mae hi nawr yn ddylunydd gerddi o’r radd flaenaf, gan ennill y fedal aur yn Sioe Flodau RHS Chelsea yn 2012.  Roedd ganddi ran integredig hefyd yn y gwaith o ddylunio gerddi’r Parc Olympaidd yn 2012.

Sgwrs gyflwyno gan Carly Green, Garddwraig yr Ardd, yn siarad am ei thaith dair wythnos i Dde Califfornia ym mis Ebrill 2018, lle bu’n archwilio sut roedd planhigion gwyllt yn adfer yn dilyn tymor tân gwyllt 2017 ac yn ymweld â gerddi botaneg Califfornia.

I archebu’ch lle, ewch i dudalen Eventbrite yr Ardd os gwelwch yn dda

Sgyrsiau wedi eu trefnu gan brosiect Tyfu’r Dyfodol yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru.  Mae’r prosiect hwn wedi derbyn cyllid trwy Raglen Datblygu Wledig 2014-2020 – Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru, a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Ardaloedd Gwledig, a Llywodraeth Cymru.