Dathlwch fyd hudolus ffyngau yma yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru!
Mae’r Ardd Fotaneg yn lle gwych i ddod i chwilio am ffyngau gwyllt, fe welwch chi bob math o gynefinoedd sy’n gyfeillgar i fadarch yma – coedwigoedd, caeau, lawntiau a gwelyau blodau.
Mae rhai o’n ffyngau yn arbennig iawn. Mae gennym fadarch gwyllt sydd heb eu canfod yn unman arall yng Nghymru, ffyngau sy’n brin ledled y DU ac ar ein Gwarchodfa Natur Genedlaethol Waun Las, mae gennym ddôl sydd â chasgliad rhyngwladol bwysig o ffyngau cap cwyr amryliw. Mae gennym hefyd rai o’r ffyngau mwyaf rhyfedd a hardd ar y ddaear.
Archwiliwch fyd rhyfedd a rhyfeddol ffyngau drosoch eich hun drwy ddod i’r digwyddiad. Bydd cyfres o sgyrsiau a theithiau cyfareddol, gweithgareddau i bob oed ac arddangosfa ffwng lle gallwch archwilio eu manylion cyfareddol a chymhleth yn agos drosoch eich hun.
Mwy o wybodaeth i ddod.