Cwrs Gwneud Bara: Cwlwm Santes Dwynwen

Sad 27 Gorff 2024 8:26yb - 8:26yb Am ddim gyda mynediad

Bara Cwlwm Santes Dwynwen

Bara melys yw bara’r Santes Dwynwen sy’n draddodiadol yn cael ei rannu gan gariadon.

Mae cwlwm y Santes Dwynwen yn symbol o gariad tragwyddol a bywyd diderfyn. Mewn gwirionedd, traddodiad Celtaidd oedd hwn a gafodd ei dderbyn gan yr eglwys Gristnogol gan fod y Celtiaid paganaidd yn gwrthod anghofio popeth am yr hen ffyrdd.  Ac felly, yn hytrach na cheisio gwahardd yr hen gredoau’n llwyr, ail-greodd yr eglwys y symbolau a’r traddodiadau i fynd law yn llaw â’u Duw Cristnogol, gan gadw pawb yn hapus a lleihau perygl gwrthryfel.

Byddai sudd afalau a mêl yn cael eu hychwanegu i felysu’r bara, hynny’n arwydd o ffrwythlondeb a chariad yng ngolwg y Celtiaid a’r Rhufeiniaid.

Yn y Canol Oesoedd roedd y toes, a elwid hefyd yn Fara Mêl, yn arwydd hefyd o gyfoeth os byddai sbeis megis sinamon wedi’i ychwanegu, a byddai’n aml yn cael ei roi fel adduned briodasol neu addewid, ac o gael ei dderbyn byddai’n rhan o seremoni’r briodas neu’r dyweddïo.

Dewch i fod yn rhan o’n cyfres o gyrsiau Adfywio Traddodiadau Cymreig yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru i helpu adfywio’r hen draddodiad Cymreig hardd a rhamantaidd hwn.

Dysgwch sut i wneud y toes, rhoi blas iddo â sbeis o’ch dewis chi, a phlethu cariad i mewn i’r cwlwm cyn mynd ag ef adref i’w bobi yn eich ffwrn eich hun.  Llenwch eich cegin ag aroglau blasus bara cartref a dod ag ychydig o swyn y Celtiaid yn fyw eto.

Offer

Bydd arnoch angen brat/ffedog, lliain sychu llestri i orchuddio’r toes, a llestr i fynd i’r ffwrn er mwyn mynd â’r rholiau bara adref i’w pobi (mae sitenni dwfn, gwastad neu ddysglau/padelli rhostio yn ddelfrydol).

Cost

£20 sy’n cynnwys mynediad i Ardd Fotaneg Genedlaethol Cymru.  I archebu, ewch yma os gwelwch yn dda.

Diogelwch COVID-19

Mae gennym ddyletswydd gofal i sicrhau eich diogelwch yn ystod y cwrs hwn, gyda rhagofalon cadw pellter cymdeithasol a hylendid mewn lle. Bydd rhaid gwisgo gorchudd wyneb y tu fewn i’r Ganolfan Wyddoniaeth (oni bai eithriad). Oherwydd y cyfyngiadau presennol, ni allwn gynnig lluniaeth, felly dewch â bwyd a diod eich hun os gwelwch yn dda, fel arall, mae croeso i chi ddefnyddio caffis yr Ardd Fotaneg.

Tyfu’r Dyfodol

Cyflwynir y cwrs hwn fel rhan o brosiect Tyfu’r Dyfodol yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru.

Mae’r prosiect hwn wedi derbyn cyllid trwy Raglen Datblygu Wledig 2014-2020 – Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru, a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Ardaloedd Gwledig, a Llywodraeth Cymru.