Mae Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru yn ystyried bod gwirfoddolwyr yn chwarae rhan bwysig yma ac mae’n cael ei werthfawrogi.
Fel un o’r gerddi yr ymwelir â hi fwyaf yn y DU, mae gan yr Ardd enw da am yr awyrgylch gyfeillgar a’n ffordd ni o drin ymwelwyr. Rydym yn gwir werthfawrogi cyfraniad ein gwirfoddolwyr ac yn eu hystyried ymhlith ein llysgenhadon pwysicaf, p’un ai ar y safle neu ble bynnag yr ânt yn y byd, gan gyfrannu at ddatblygiad ein henw da a’i hyrwyddo.

Pam rydym angen gwirfoddolwyr a pham rydym yn eu cefnogi
Mae’r Ardd yn cydnabod fod gweithgarwch y gwirfoddolwyr yn rym positif pwysig wrth godi proffil y sefydliad a chryfhau’r gefnogaeth yn y gymuned. Mae gwirfoddolwyr yn rhan hanfodol o guriad calon yr Ardd ac maent ymhlith ei llysgenhadon. Gall gwirfoddolwyr ddod â sgiliau ychwanegol arbennig neu brofiadau sy’n ychwanegu dimensiwn i fywyd yr Ardd. Maent hefyd yn help i glymu’r Ardd yn dynn wrth y gymuned ehangach – cymuned lle a chymuned pobl. Caiff ei gydnabod fod ymwneud ag amrywiaeth eang o safbwyntiau yn dod â gwerth ychwanegol i sefydliadau.
Fel gyda llawer o elusennau yn y DU, mae adnoddau’r Ardd yn gyfyngedig. Felly, er mwyn galluogi’r Ardd i gwrdd â’i hamcanion mae wedi datblygu partneriaeth staff/gwirfoddolwr sy’n hanfodol, yn gytbwys, yn effeithiol ac yn gyd-fuddiol. Mae hyn yn seiliedig ar yr egwyddor fod staff yr Ardd yn darparu’r strwythur, trefniadaeth, cyfeiriad a rheolaeth ddyddiol, tra bo gwirfoddolwyr yn ychwanegu gwerth at waith yr Ardd trwy ymgymryd ag ystod eang o ddyletswyddau, gan roi eu hamser, dangos hyblygrwydd, a rhannu profiad a sgiliau arbenigol. Felly o fewn y fframwaith hwn, mae gwirfoddoli yn weithgaredd gwerthchweil a hanfodol ac yn un y mae’r Ardd yn ei chefnogi a’i hyrwyddo.



Cyfleoedd Gwirfoddoli
Mae gan yr Ardd Fotaneg y lleoliadau gwirfoddoli canlynol ar gael. Os oes gennych ddiddordeb yn unrhyw un o’r lleoliadau a hysbysebir*, e-bostiwch: VolunteerCoordinator@Gardenofwales.org.uk

Adran Gwasanaethau Ymwelwyr – cwrdd â chyfarch
Gweithgareddau
Croesawu ymwelwyr i’r Ardd yn y brif fynedfa i ymwelwyr ac ateb unrhyw gwestiynau sydd gan ymwelwyr ynglŷn â digwyddiadau, cyfleusterau ac ati
Dyddiau ac Amseroedd
Dydd Mawrth 10yb – 1yp
Dydd Mercher 10yb – 1yp
Profiad
Rhaid i sgiliau rhyngbersonol da, golwg smart, fwynhau cyfarfod / sgwrsio â’r cyhoedd. Byddai gwybodaeth am yr Ardd a’i hanes yn fanteisiol ond darperir hyfforddiant llawn. Byddai’r gallu i sgwrsio yn Gymraeg yn fwyaf manteisiol ond nid yn hanfodol.
Adran Gwasanaethau Ymwelwyr – Gyrru Cerbydau Bach
Gweithgareddau
Mae Gyrwyr cerbydau bach yn darparu gwasanaeth hanfodol i’n hymwelwyr llai galluog drwy ddarparu cludiant i wahanol safleoedd o amgylch yr Ardd a Thirwedd y Rhaglywiaeth Hanesyddol.
Mae gyrwyr cerbydau bach hefyd yn cynnig gwasanaeth hanfodol i staff drwy gasglu a dosbarthu eitemau rhwng adrannau.
Dyddiau ac Amseroedd
Cysylltwch â’n Cydlynydd Gwirfoddolwyr yn y cyfeiriad e-bost uchod i gael rhagor o wybodaeth am gyfleoedd cyfredol ac argaeledd.
Profiad
Sgiliau rhyngbersonol da, rhaid mwynhau cyfarfod/sgwrsio â’r cyhoedd a chael trwydded yrru lân. Bydd gwybodaeth am yr Ardd a’i hanes yn fanteisiol, ond darperir hyfforddiant llawn, a rhaid cymryd prawf gyrru cert bach. Sylwch fel gyrrwr cert bach y bydd disgwyl ichi godi pramiau sy’n plygu a chadeiriau olwyn â llaw i mewn ac allan o’r ceirt.
Siop Llyfrau Ail-law
Gweithgareddau
Mae gwirfoddolwyr ein siop lyfrau yn darparu gwasanaeth hanfodol ar gyfer ein siop lyfrau ail-law, gan godi arian i’r Ardd a chynnal y gweithgareddau canlynol:
Ail-stocio silffoedd, sicrhau bod prisiau i’w gweld ar y silffoedd a bod prisiau unigol ar y llyfrau.
Ail-stocio DVDau, CDau and Jig-sos.
Didoli rhoddion: glanhau llyfrau, DVDau a CDau, eu gosod yn y categori llyfrau cywir yn y storfa, sicrhau nad yw DVDau a CDau yn gopïau wedi eu hatgynhyrchu drwy dwyll, ac ati.
Delio ag ymholiadau am lyfrau gan y cyhoedd.
Dyddiau ac Amseroedd
Cysylltwch â’n Cydlynydd Gwirfoddolwyr yn y cyfeiriad e-bost uchod i gael rhagor o wybodaeth am gyfleoedd cyfredol ac argaeledd.
Profiad
Sgiliau rhyngbersonol da, rhaid mwynhau cyfarfod/sgwrsio â’r cyhoedd a bydd hoffi llyfrau’n hanfodol, rhoir hyfforddiant llawn.
Tirwedd Rhaglywiaeth – Ceidwaid
Gweithgareddau
Rydym yn chwilio am Geidwaid i batrolio ein Tirwedd Rhaglywiaeth Hanesyddol wedi’i hadfer sy’n cynnwys llynnoedd, rhaeadrau, pontydd a nifer o lwybrau troellog a sicrhau bod ein hymwelwyr yn ddiogel ac yn mwynhau eu hymweliad.
Ar hyn o bryd mae Ceidwaid yn patrolio’r dirwedd mewn sifftiau 2 awr. Darparu presenoldeb gweladwy a rhoi gwybod am unrhyw faterion drwy’r radio i’r rheolwr ar ddyletswydd.
Dyddiau ac Amseroedd
Cysylltwch â’n Cydlynydd Gwirfoddolwyr yn y cyfeiriad e-bost uchod i gael rhagor o wybodaeth am gyfleoedd cyfredol ac argaeledd.
Profiad
Rhaid i sgiliau rhyngbersonol da, golwg smart, fwynhau cerdded, cyfarfod a sgwrsio â’r cyhoedd. Mae gwybodaeth o’r Ardd a’i Hanes yn fanteisiol ond rhoddir hyfforddiant llawn. Byddai’r gallu i sgwrsio yn Gymraeg yn fwyaf manteisiol ond nid yn hanfodol.
Tirwedd Rhaglywiaeth – Tywyswyr Teithiau
Gweithgareddau
Rydym yn chwilio am Dywyswyr Teithiau i ddarparu teithiau tywys i ymwelwyr o’n Parcdir Rhaglywiaeth Restredig Hanesyddol wedi’i adfer gyda’i lwybrau troellog, rhaeadrau, rhaeadrau a phontydd.
Dyddiau ac Amseroedd
Rydym yn chwilio am Dywyswyr Teithiau i ddarparu teithiau tywys i ymwelwyr o’n Parcdir Rhaglywiaeth Restredig Hanesyddol wedi’i adfer gyda’i lwybrau troellog, rhaeadrau, rhaeadrau a phontydd.
Cysylltwch â’n Cydlynydd Gwirfoddolwyr yn y cyfeiriad e-bost uchod i gael rhagor o wybodaeth am gyfleoedd cyfredol ac argaeledd.
Profiad
Rydym yn chwilio am Dywyswyr Teithiau i ddarparu teithiau tywys i ymwelwyr o’n Parcdir Rhaglywiaeth Restredig Hanesyddol wedi’i adfer gyda’i lwybrau troellog, rhaeadrau, rhaeadrau a phontydd.
*Mae lleoliadau gwirfoddolwyr ar agor i breswylwyr y DU yn unig.