Jin Waun Las

Wedi’i ddistyllu ar ein cyfer gan “The Gower Gin Company“, mae gan y jin llysieuol, sawrus hwn nodiadau o fêl a chymysgedd braf o erwain, helygen y môr, dail mwyar duon, eithin, grug a gwreiddyn dant y llew.

Wedi’i enwi ar ôl ein Gwarchodfa Natur Genedlaethol, Waun Las, mae’r jin hwn yn tynnu sylw at rywogaethau planhigion brodorol sy’n gyfeillgar i beillwyr ac, wrth gwrs, yn dathlu’r mêl a gynhyrchwyd gan wenyn yr Ardd Fotaneg.

Yr amcan oedd creu jin gan ddefnyddio rhai o’n planhigion brodorol yn hytrach na phlanhigion o ardaloedd eraill y byd, sy’n adlewyrchu cenhadaeth yr Ardd Fotaneg ac sydd hefyd yn adlewyrchu’r gwaith pwysig a wnaed gan ein hadran wyddoniaeth.

Gyda chymorth Jin Gŵyr ac ymchwil ein tîm gwyddoniaeth, rydym wedi creu jin amgen cymhleth gan ddefnyddio cynhwysion syml iawn yn ogystal â’n mêl poblogaidd fel elfen allweddol o’r gymysgedd.

Mae’r jin ar gael yn ein siop anrhegion am £40 am botel 70cl (43% vol). Nifer cyfyngedig sydd ar gael.