Cenhadaeth yr Ardd

Gweledigaeth

Byd sy’n rhoi gwerth ar fioamrywiaeth, yn diogelu planhigion ar blaned.

Cenhadaeth

Mae Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru wedi ymroi i waith ymchwil a gwarchod bioamrywiaeth, i gynaliadwyedd, dysgu gydol oes a mwynhad yr ymwelydd.

Gwerthoedd

Byddwn:

  1. Yn cyfrannu at lesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Cymru er mwyn cenedlaethau’r dyfodol.
  2. Yn eiriol ac yn hyrwyddo cadwraeth amgylcheddol ac arferion cynaliadwy.
  3. Yn hyrwyddo ac yn datblygu cadwraeth bioamrywiaeth yng Nghymru ac yn rhyngwladol, drwy bartneriaethau a chan ymgynghori â sefydliadau cenhedlaeth a rhyngwladol.
  4. Yn ymdrechu i gyfathrebu ac ymwneud ag amrywiaeth eang o sefydliadau.
  5. Drwy achredu sy’n cael ei gydnabod yn rhyngwladol (e.e. BGCI), yn dangos gweithredu’r safonau uchaf mewn arferion ymchwil a chadwraeth.

Amcanion Strategol

  1. Bod yn ganolfan o fri rhyngwladol ar gyfer cadwraeth bioamrywiaeth ac ymchwil..
  2. Datblygu a chynnal y casgliadau garddwriaethol ac eraill yn ôl y safonau curadurol uchaf ac wrth gyflwyno.
  3. Darparu addysg a hyfforddiant ysbrydoledig wedi eu hachredu mewn garddwriaeth, gwyddorau planhigion, cadwraeth, ecoleg, cynaliadwyedd a phynciau STEM  i bob oed a gallu, i hyrwyddo mwy o ddealltwriaeth o bwysigrwydd yr amgylchedd yn ein dyfodol cynaliadwy.
  4. Bod yn gyrchfan lwyddiannus i ymwelwyr o fri rhyngwladol sy’n cyfrannu at les economaidd, cymdeithasol a diwylliannol Cymru.
  5. Fel sefydliad Cymreig eiconig yn cyfrannu at hyrwyddo statws a chydnabyddiaeth o Gymru ar lefel ryngwladol.
  6. Parhau i adeiladu a diogelu sefydliad sy’n gynaliadwy yn ariannol i wneud y mwyaf o ddarparu gweithgaredd cenhadaeth graidd yr Ardd Fotaneg.

Amcanion i’n Galluogi 

Rheoli adnoddau’n effeithiol ac effeithlon i ddatblygu ein pobl, ein hisadeiledd, ein hymchwil wyddonol, ein casgliadau garddwriaethol a’n gweithgaredd masnachol ar sail sy’n gynaliadwy.