Gwyddoniaeth

Mae angen eich help ar Abigail, Laura a Lucy, ymchwilwyr PhD yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru, i ddod o hyd i’r blodau gorau i bryfed peillio llwglyd.

Mae angen eich help arnynt! Os hoffech gefnogi ein gwaith ymchwil ynglŷn â peillwyr ewch i’n tudalen JustGiving, Helpwch Achub Ein Peillwyr!

Mae pryfed sy’n mynd o flodyn i flodyn, gan gynnwys cacwn, gwenyn, gwenyn unig a phryfed hofran, yn hanfodol i les y byd.

Mae’r dirywiad cyflym yn nifer y pryfed peillio yn peri pryder gwirioneddol. Heb amrywiaeth eang o bryfed peillio, fyddai yna ddim tomatos, ceirios, afalau, mafon a mefus, na chwaith nwyddau bob dydd fel coffi a siocled. Nhw sy’n peillio’r bwydydd rydym wrth ein bodd yn eu bwyta!

Un o’r prif ffactorau sy’n peri i nifer y pryfed peillio ddirywio yw colli’r cynefinoedd llawn blodau sy’n darparu’r neithdar a’r paill sy’n bwydo’r pryfed peillio. Er enghraifft, yn y DU rydym wedi dinistrio 97% o’n gweirgloddiau blodau gwyllt hynafol, lle’r arferai amrywiaeth o blanhigion blodeuol dyfu, yn fwyd i bryfed peillio llwglyd.

Mae tyfu planhigion sy’n denu pryfed peillio yn ein gerddi’n un ffordd o ddarparu mwy o fwyd i bryfed peillio – ond pa blanhigion sydd orau ganddynt?

Gall cadw rhestrau o blanhigion sy’n denu pryfed peillio ein helpu i ddewis y planhigion iawn, ond at ei gilydd nid yw’r rhestrau hyn yn seiliedig ar ddata gwyddonol go iawn nac yn cynnwys rhai o’r planhigion pwysig sy’n denu pryfed peillio. Yma yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru mae gennym gasgliadau garddwriaethol a Gwarchodfa Natur Genedlaethol, yn cynnwys dewis o dros 9000 o wahanol fathau o blanhigion blodeuol brodorol ac anfrodorol i’n pryfed peillio. O’r herwydd, rydym mewn sefyllfa wych i wneud profion gwyddonol i weld pa blanhigion sydd fwyaf pwysig. Rydym am gael atebion i’r cwestiynau isod:

  • Pa blanhigion mae pryfed peillio’n eu defnyddio i gael bwyd?
  • Pa flodau mewn cymysgeddau hadau fyddai’n darparu’r bwyd gorau i gymuned gyfan o bryfed peillio, drwy gydol y flwyddyn?
  • Sut allwn ni ddefnyddio’r wybodaeth hon i gyfrannu’n ystyrlon at warchod pryfed peillio, yn ein milltir sgwâr?

I gael gwybod pa blanhigion y mae’r pryfed peillio wedi bod yn ymweld â nhw byddwn yn casglu samplau o baill o’u cyrff. Rydym yn echdynnu, yn amlhau ac yn dilyniannu’r DNA yn y paill gan ddefnyddio technegau barcodio DNA.  Drwy hyn gallwn gael gwybod yn union pa blanhigion sydd fwyaf pwysig i bryfed peillio a defnyddio’r wybodaeth hon i ddatblygu cymysgeddau hadau sy’n denu pryfed peillio i’w defnyddio yn ein gerddi i warchod pryfed peillio.

Mae’n costio £3,000 i echdynnu, amlhau a dilyniannu DNA o 100 o samplau ac mae angen eich help arnom er mwyn i ni allu dilyniannu paill o 500 o bryfed (cyfanswm o £15,000). Drwy gyfrannu at yr achos hwn, rydych yn cyfrannu’n uniongyrchol i ymchwil a chadwraeth pryfed peillio yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru.

Mae gennym dri ymchwilydd PhD yn gweithio’n llawn amser ar y safle, ac mae angen eich help arnynt i wneud y gwaith ymchwil hollbwysig hwn:

Laura Jones: Yn ymchwilio i arferion chwiliota am fwyd gwenyn gan ddefnyddio barcodio DNA.

Abigail Lowe: Yn ymchwilio i werth gerddi o ran darparu blodau i gacwn, gwenyn unig a phryfed hofran gan ddefnyddio barcodio DNA.

Lucy Witter: Yn datblygu ac yn profi cymysgeddau hadau sy’n denu pryfed peillio ar gyfer gerddi a mannau gwyrdd mewn trefi a dinasoedd.

I ddiolch i chi am eich cefnogaeth:

£50 – Dau docyn am ddim i ymweld â’r Ardd Fotaneg.

£100 – Pedwar tocyn am ddim i ymweld â’r Ardd Fotaneg.

£150 – Brodwaith Pryfed Peillio Pwytho Botanegol.

£250 – Taith Gerdded Cacwn a chyflwyniad i adnabod rhywogaethau ym mhrydferthwch yr Ardd Fotaneg a Gwarchodfa Natur Genedlaethol Waun Las gyda’r Tîm Gwyddoniaeth.

£300 – Diwrnod Cadw Gwenyn yng Ngwenynfa’r Ardd Fotaneg.

£400 – Diwrnod yn y Labordy Gwyddoniaeth yn dysgu am roi cynnig ar farcodio DNA.