Gardd Wefreiddiol yn cyrraedd y Rhestr 500 Uchaf

Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru yw, heb amheuaeth, un o erddi mwyaf rhyfeddol Prydain … yn llawn haeddu diwrnod cyfan i’w harchwilio.

Nid ein geiriau ni ond yr hyn sy’n cael ei ddweud amdanom gan gyhoeddwr arweinlyfr teithio mwyaf eiconig y byd, sef Lonely Planet.

Mae ei gyhoeddiad diweddaraf, Ultimate United Kingdom Travelist – a gyhoeddir heddiw (Awst 13) – yn cynnwys y gorau oll o gyrchfannau Prydain na ellir eu hepgor.

Mae’n disgrifio’r Ardd Fotaneg fel taith wefreiddiol, flodeuog sy’n meddu ar olygfeydd syfrdanol ac sy’n cynnwys y tŷ gwydr un rhychwant mwyaf yn y byd.

Dywedodd David Hardy, Pennaeth Marchnata yr Ardd: “Mae’n anrhydedd mawr i ni gael ein cynnwys ar brif restr deithio orau’r Deyrnas Unedig. Lonely Planet yw’r Rhif 1 o ran brandiau arweinlyfrau teithio, ac mae’n gwerthu cannoedd ar filoedd o lyfrau ac apiau teithio; felly, mae hwn yn anrhydedd arbennig i’n hatyniad ac i bawb sydd wedi ein helpu i’w wneud yn brofiad na ellir ei hepgor.”

Mae’r arweinlyfr newydd yn rhestru tafarnau bach, eglwysi cadeiriol anferthol, llynnoedd inciog, amgueddfeydd a gerddi o’r radd flaenaf, a phopeth sy’n wych am Brydain, a hynny yn nhrefn eu rhagoriaeth. Mae pob cofnod yn rhoi blas o’r hyn y gellir ei ddisgwyl, yn ogystal â rhoi cyngor ymarferol i gynllunio eich taith. Ychwanegodd Mr Hardy: “Mae’n eithaf arbennig cael ein rhestru yma ochr yn ochr ag atyniadau tebyg i Ardal y Llynnoedd, Côr y Cewri, Mur Hadrian a Charnifal Notting Hill.”

Wedi’i lleoli yng nghefn gwlad hyfryd Sir Gaerfyrddin, mae Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru yn gyfuniad cyfareddol o’r cyfoes a’r hanesyddol.

Yn ogystal â thŷ gwydr un rhychwant mwyaf y byd, fe welwch yno amrywiaeth ysbrydoledig o erddi â themâu, Canolfan Adar Ysglyfaethus Prydain, Plas Pili-pala trofannol, ardaloedd chwarae a gwarchodfa natur genedlaethol, oll wedi’u gosod yn nhirwedd y Rhaglywiaeth sy’n llwyfan i raglen lawn o ddigwyddiadau a chyrsiau trwy gydol y flwyddyn. A gellwch ddatblygu eich sgiliau a’ch gwybodaeth arddwriaethol trwy gyfrwng prosiect Tyfu’r Dyfodol yr Ardd, ynghyd â manteisio ar amrywiaeth o gyrsiau garddio a chadw gwenyn trwy gydol y flwyddyn.

Dywedodd Emlyn Dole, Arweinydd Cyngor Sir Caerfyrddin: “Mae hon yn gydnabyddiaeth arbennig. Mae’r Ardd yn ddiwrnod allan gwych i bobl o bob oed, ac mae yna lawer i’w weld a’i wneud yno bob amser, ni waeth pa adeg o’r flwyddyn y byddwch yn ymweld â hi. Gobeithio y bydd hyn yn annog hyd yn oed mwy o bobl i ymweld â hi, sy’n newyddion gwych nid yn unig i’r Ardd ond hefyd i Sir Gaerfyrddin ei hun ac i’n diwydiant twristiaeth sy’n tyfu.”

Dywedodd y Cynghorydd Peter Hughes-Griffiths, Aelod o’r Bwrdd Gweithredol ar gyfer Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth: “Rwyf wrth fy modd. Nid oes amheuaeth y bydd yr anrhydedd hwn yn helpu i godi proffil yr Ardd ryfeddol hon yr ydym mor ffodus i’w chael yma ar garreg ein drws yn Sir Gaerfyrddin. Os ydych yn chwilio am rywle i fynd â’ch teulu yr haf hwn, yna dyma’r lleoliad perffaith i chi ymweld ag ef.”

Mae trysorau twristaidd eraill yng Nghymru yn cynnwys: Yr Wyddfa, Llyn y Fan Fach, Skomer, Portmeirion, Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, Eglwys Gadeiriol Tyddewi, Traphont Pontcysyllte, Castell Caernarfon, Bae Barafundle, Sain Ffagan a Sioe Frenhinol Cymru.

Cofnod llawn yr Ardd yn Lonely Planet:

Mentrwch i Ardd Fotaneg Genedlaethol Cymru

DE CYMRU // Yn ymestyn dros 560 erw o Barc y Rhaglywiaeth a ddatblygwyd gan Syr William Paxton, mae Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru yn meddu ar olygfeydd syfrdanol ar hyd y bryniau a Dyffryn Tywi.
Ei chanolbwynt yw’r Tŷ Gwydr Mawr, a ddyluniwyd gan Norman Foster, a dyma’r tŷ gwydr un rhychwant mwyaf yn y byd, sy’n cynnig taith wefreiddiol, flodeuog trwy Galiffornia, Awstralia, yr Ynysoedd Dedwydd, Chile, De Affrica a Môr y Canoldir. Ac mae yna fwy: gardd ddeu-fur sy’n arddangos esblygiad planhigion blodeuol, gardd yr apothecari sy’n cynnwys perlysiau iachaol, perllan o afalau Cymreig sy’n llawn o fathau anghyffredin, gardd wenyn sy’n cynnwys ffenestr yng nghefn y cwch gwenyn, canolfan adar ysglyfaethus, a thŷ gwydr sy’n ferw o loÿnnod byw prin.

Dyma, heb amheuaeth, un o erddi mwyaf rhyfeddol Prydain, sy’n llawn haeddu diwrnod cyfan i’w harchwilio.

DEWCH I’W GWELD! Mae’r ardd wedi’i lleoli 10 munud o’r M4 a dwy
funud o’r A48 yn Sir Gaerfyrddin.