Codio-Bar DNA

Dychmygwch eich bod chi’n gallu adnabod unrhyw rywogaeth o blanhigion o’r darn lleiaf o ddeilen, hedyn, neu ronyn o baill – mae hyn yn bosibl trwy ddefnyddio codio-bar DNA.

Mae codio-bar DNA yn defnyddio darnau byrion o DNA er mwyn adnabod rhywogaethau.  Ar draws y byd, mae gwyddonwyr yn gweithio gyda’i gilydd er mwyn codio-bar DNA popeth byw.

Cymru oedd y wlad gyntaf yn y byd i godio-bar DNA ei holl blanhigion blodeuol a chonifferau brodorol, yn sgil gwaith a arweiniwyd gan Ardd Fotaneg Genedlaethol Cymru.  Mae’r gwaith hwn wedi darparu adnodd a phosibilrwydd enfawr ar gyfer ymchwilio i gadwraeth bioamrywiaeth a iechyd dynol, sydd ar gael i bob ymchwilydd drwy Data-Bas Côd-Bar Bywyd.

Gellir cymharu unrhyw ddilyniant DNA anhysbys i’r data-bas, er mwyn darganfod pa blanhigyn ydyn nhw.  Gwir bwysigrwydd y dechneg hon yw y gall hi adnabod rhywogaeth lle nad oedd yn bosibl gwneud hynny o’r blaen; o hedyn, gwraidd, graen paill, sampl o ysgarthion, cynnwys stumog, neu sampl amgylcheddol o’r awyr, pridd a dŵr.

 

Mae’r adnodd codio-bar DNA hwn â sawl defnydd: deall gofynion cynefin anifeiliaid sydd dan fygythiad trwy ddarganfod pa blanhigion y maen nhw’n eu bwyta: ailadeiladu tirweddau’r gorffennol trwy adnabod planhigion oddi wrth hadau o fewn proffil y pridd; monitro effeithiau clefyd y gwair trwy adnabod paill yn yr atmosffêr; monitro a darparu tystiolaeth o fasnachu anghyfreithlon o fywyd gwyllt; neu gyfrannu at reoli ansawdd o gynnyrch a seilir ar blanhigion, fel meddyginiaethau llysieuol neu fêl.

Yma yn yr Ardd, ry’n ni’n defnyddio ein hadnodd codio-bar DNA er mwyn adnabod paill o gyrff peillwyr, a darganfod ym mhle mae gwenyn mêl yn ymborthi, pa blanhigion y mae pryfed hofran yn ymweld â nhw, a darganfod ffynonellau blodeuol mêl.

Ry’n ni’n awr yn codio-bar DNA gweddill planhigion blodeuol y DU ac yn ymestyn dramor gan gyfrannu at brosiectau rhyngwladol ar ecoleg fforestydd glaw.