Caru Natur Cymru

Prosiect tair blynedd gwerth £1.3 miliwn oedd Caru Natur Cymru wedi ei ddarparu gan yr Ardd Fotaneg a’i phartneriaid, gyda’r nod o wella llesiant pobl, bywyd gwyllt a’r amgylchedd. Mae arfarniad annibynnol o’r gwaith wedi dweud bod y prosiect yn rhyfeddol o lwyddiannus wrth gyraedd ei ddibenion.

Mae’r enw (yn Saesneg) wedi’i seilio ar y syniad o ’biophilia’, sef bod gan bobl duedd gynhenid i chwilio am gysylltiadau â byd natur a bod hynny’n hanfodol i’w hiechyd a’u llesiant.

Yr her fwyaf oedd bod cyfnod y prosiect wedi digwydd yr un pryd â’r pandemig, felly bu’n rhaid i reolwyr a gwirfoddolwyr ddelio â holl gyfyngiadau cyfnodau clo niferus y Covid. Ar ôl dweud hynny, ni allent fod wedi ddewis amser gwell i ganolbwyntio llawer o egni a sylw ar lesiant staff a chleifion.

Roedd tri llinyn cysylltiedig i’r prosiect:

  • Mannau Ysbrydoledig – trawsnewid mannau porfa amwynder a lleoedd yn yr awyr agored nad ydynt yn cael eu defnyddio i’r eithaf yn fannau sy’n llawn bywyd gwyllt, lle gall pobl fwynhau ac adfer eu hiechyd gan fyd natur.
  • Glaswelltiroedd am Oes – datblygu ecosystemau tir porfa gwydn drwy drawsnewid monitro ac atgyfnerthu gweithgareddau adfer.
  • Planhigion ar gyfer Pobl – dathlu treftadaeth naturiol Cymru drwy warchod ein planhigion sydd fwyaf dan fygythiad, ar gyfer pobl Cymru.

Y tri phecyn gwaith hyn hefyd oedd y rhai cyntaf i’r GIG yng Nghymru. Roedden nhw’n canolbwyntio ar amcanion y rhwydwaith gwyrdd mewn 40 safle o fewn ystâd Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe. Roedd y bwrdd iechyd yn ymwneud â’r tri maes hyn, ond Mannau Ysbrydoledig sydd wedi yr effaith fwyaf ar safleoedd y GIG. Y prif darged oedd safleoedd o gwmpas ysbytai, canolfannau iechyd a chyfleusterau iecdyd meddwl a phreswyl yn ardal Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot.

Dywedodd Kathryn Thomas, rheolwr y prosiect, fod pob safle wedi ei werthuso ar gyfer ymyriadau ymarferol. Roedd y rhain yn amrywio o fân newidiadau fel gosod blychau ystlumod ac adar, i dasgau mwy o faint fel creu dolydd blodau gwylltion. Mewn ambell achos yr unig ymyriad angenrheidiol fyddai newid trefn cynnal a chadw, a lle digwyddodd hynny dylai olygu llai o gynnal a chadw ar gyfer timau’r ystâd yn hytrachna mwy o lafur, er mwyn i’r gwaith fod yn gynaliadwy ar ôl diwedd y prosiect. Lle nad oedd dim neu fawr ddim posibilrwydd gwella bioamrywiaeth y tu allan i’r adeilad, gellid dod â natur i mewn i’r adeilad drwy gyfrwng gwaith celf a ffilmiau llesiant sy’n dathlu glaswelltir Cymru. Gall y ffilmiau hyn hefyd gael eu defnyddio i leihau tyndra ymhlith cleifion.

I helpu sicrhau’r holl ganlyniadau hyn, roedd y prosiect yn dibynnu’n fawr iawn ar amser gwirfoddolwyr. I wneud hyn crewyd 14 o grwpiau gwirfoddolwyr newydd, a roddodd 11,000 o oriau o’u hamser i’r prosiect.

At hynny, yn ôl arfarniad gan Miller Research, roedd y prosiect yn gyfrifol am wella ansawdd yr amgylchedd yn lleol, cynyddu llesiant y dirwedd a’r bobl drwy gynyddu bioamrywiaeth. Mae’n diogelu rhai o rywogaethau Cymru sydd fwyaf dan fygythiad drwy gasglu a lluosogi hadau. Ac at hyn mae Caru Natur Cymru wedi cynyddu gwybodaeth a dealltwriaeth o gynefinoedd naturiol Cymru drwy ddefnyddio’r barcodio DNA diweddaraf i ddeall byd natur.

Dywedodd Miller Research fod y prosiect yn dal mor berthnasol ag erioed ac y gallai arwain at effeithiau maith wrth i becynnau gwaith eraill barhau , ac y bydd data gwyddonol a gaiff eu casglu o fudd  i brosiectau eraill am flynyddoedd i ddod. Er bod y prosiect wedi dod i ddiwedd ei gyfnod o dair blynedd, mae’r gwaith da yn parhau drwy estyn y prosiect wrth benodi Swyddog Seilwaith Bioamrywiaeth a Gwyrdd.

Dywedodd Howard Stevens, Rheolwr Gwasanaethau Technegol Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe mai’r cydweithredu hwn yw’r tro cyntaf i’r Adran Ystadau gymryd rhan mewn dull fel hwn. Mae’n gobeithio eu bod wedi dysgu gwersi i fynd â’r prosiect yn ei flaen.

Dywedodd fod y gwaith yn unigryw ac mai hwn oedd y tro cyntaf i’r GIG yng Nghymru (os nad yn y Deyrnas Gyfunol) fod yn bartner mewn amcanion seilwaith gwyrdd. Rhan allweddol o’r llwyddiant hwn oedd gwybodaeth Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru. Roeddent wedi bod yn eithriadol o ffodus i fod yn bartner i gorff gyda gwybodaeth a statws proffesiynol fel yr Ardd. Rhoddodd deyrnged arbennig i’r holl wirfoddolwyr a oedd wedi bod yn rhan o’r prosiect. Hebddyn nhw, meddai, ni fyddent wedi cyflawni cymaint.

Prosiect partneriaeth oedd Caru Natur Cymru rhwng Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru, Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, Prifysgol Abertawe a Chyfoeth Naturiol Cymru. Cafodd ei ariannu gan y cynllun grant Galluogi Adnoddau Naturiol a Llesiant yng Nghymru (ENRaW).

Mae’r ffigurau am yr hyn mae’r prosiect wedi llwyddo i’w wneud yn dipyn o ryfeddod:

  • 3500+ o goed wedi eu plannu, gan gynnwys saith perllan gyda 40 o goed ffrwythau brodorol Cymreig a 3,437 o blanhigion cloddiau;
  • Mwy o blanhigion i beillwyr mewn dros 20 o safleoedd;
  • creu 28 o fannau ymlacio, gan gynnwys dwy gysgodfan gyda thoeon gwyrdd, chwe chysodfan gyda seddau, 12 mainc bicnic, wyth mainc arall ynghyd â chreu mannau cerdded newydd mewn mwy na 10 safle, i gyd i wella llesiant cleifion a staff;
  • gwella mwy na 31 hectar o laswelltir ar gyfer bioamrywiaeth, gan gynnwys polisiau newydd ar beidio â thorri porfa;
  • 20 o flychau nythu i adar, pedwar ‘gwesty’ pryfed ac un blwch ystlumod mewn 19 o safleoedd; ac
  • ychwanegu dros 3,000 o blanhigion bach ar leiniau porfa;
  • rhyngweithio’n ystyrlon 88,297 o weithiau â phobl ynglŷn â natur;
  • rhoi 64 math o blanhigion glaswelltir allweddol yn y banc hadau;
  • gosod 20 target o 8 o fathau o blanhigion dan fygythiad yn y banc hadau;
  • cyhoeddi tri phapur gwyddonol ar ddefnyddio metacodio DNA a gwarchod rhywogaethau.