Yr Iaith Gymraeg

Polisi Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru yw na fydd y Gymraeg yn cael ei thrin yn llai ffafriol na’r Saesneg. Lle bo’n bosibl, rydym yn ceisio hyrwyddo’r defnydd o’r Gymraeg, ac rydym yn annog ein hymwelwyr, staff a gwirfoddolwyr i ddefnyddio’r Gymraeg, p’un a ydynt yn rhugl neu a ydynt yn dysgu’r iaith.

Mae Adran 44 o Fesur yr Iaith Gymraeg (Cymru) 2011 yn rhoi dyletswydd ar yr Ardd i gydymffurfio â Safonau Iaith Gymraeg fel y nodir yn ei Hysbysiad Cydymffurfio, ac rydym wedi datblygu Polisi Iaith Gymraeg sy’n nodi sut y byddwn yn gweithio i sicrhau bod cydymffurfiaeth lawn. Mae’r dogfennau perthnasol ar gael i’w lawr lwytho:

Gellir lawrlwytho ein Hadroddiad Blynyddol Cymraeg diweddaraf yma.

Cwynion

Croesawn adborth ar bob rhan o’r Ardd. Os ydych chi’n teimlo nad ydym yn bodloni unrhyw un o’r Safonau Iaith Gymraeg, neu ein bod yn methu â gweithredu ein polisi, cysylltwch â Swyddog Cydymffurfio’r Ardd, gruffydd.thomas@gardenofwales.org.uk neu ysgrifennwch at:

Swyddog Cydymffurfio,
Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru,
Neuadd Middleton,
Llanarthne,
Sir Gâr SA32 8HG.

Mae croeso i chi gysylltu gyda ni yn y Gymraeg neu’r Saesneg.

Pan fyddwn yn derbyn cwyn, rydym yn ymdrechu, lle bo’n angenrheidiol ac yn bosibl, i gywiro’r sefyllfa ar unwaith, a byddwn bob amser yn ymchwilio i weld a oes angen gwella ein polisïau, ein systemau neu ein hyfforddiant. Caiff pob cwyn ei throsglwyddo at Swyddog Cydymffurfio’r Ardd sy’n gweithio gyda staff yn yr adrannau perthnasol i sicrhau bod unrhyw newidiadau angenrheidiol yn cael eu gwneud.