Mae’r safle hwn ar dir sy’n datgelu eu hanes yn gynyddol – mae wedi ei restru’n Radd II ar Gofrestr Cadw/ICOMOS o Barciau a Gerddi o Ddiddordeb Hanesyddol Arbennig yng Nghymru. Y nodweddion hanesyddol mwyaf amlwg yw’r Ardd Ddeufur, y Stablau, y Rhewdy, y parcdir a’r gadwyn o lynnoedd sydd wedi’u hadfer. Mae ein gwybodaeth am dirfeddianwyr y gorffennol wedi dod o amrywiol ffynonellau a oedd yn canolbwyntio ar ddehongliad hanesyddol Gorllewinol. Dyddiadau, dolenni teuluol, cysylltiadau masnachol a disgrifiadau manwl o’r arwyddion ffisegol o’r cyfoeth a grëwyd gan y prif gymeriadau. Mae ein gwybodaeth am dirfeddianwyr y gorffennol wedi dod o amrywiol ffynonellau a oedd yn canolbwyntio’n bennaf ar ddehongliad hanesyddol Gorllewinol. Dyddiadau, dolenni teuluol, cysylltiadau masnachol a disgrifiadau manwl o’r arwyddion ffisegol o’r cyfoeth a grëwyd gan y prif gymeriadau. Fel y cyfryw mae llawer o’r Ardd yn cyfleu naratif arwynebol o berchnogion blaenorol yr Ystâd. Roedd eu safle o fewn y cwmni East India, neu reolaeth drefedigaethol yn gyffredinol, yn cael ei weld fel cyfle busnes neu ’antur’, ac nid oedd yn sôn am yr anghyfiawnderau a oedd yn caniatáu iddynt ddatblygu cyfoeth anferth. Ein her ni nawr yw creu hanes ffeithiol o Neuadd Middleton sy’n cydnabod ei chysylltiadau imperialaidd, gyda’i greulondeb a’i anghyfiawnder, a thrafod yn onest gysylltiadau agos yr Ystâd â Chwmni East India a’r farchnad caethweision yn India’r Gorllewin.
Ystyrir bod yr arddwriaeth a’r bensaeriaeth gyfoes yn y dirwedd hanesyddol yn atyniad pwysig i’n hymwelwyr. Ond mae ymwybyddiaeth ac anesmwythder cynyddol am ffynonellau’r cyfoeth a dalodd am greu’r ystâd hanesyddol wedi ein cymell i adolygu’r ffordd rydym am gyfleu hanes y tir hwn cyn i Ardd Fotaneg Genedlaethol Cymru gael ei chreu. Rhaid inni fynd i’r afael ag edrych ar werthoedd ein gardd fotaneg o’r 21fed Ganrif ochr yn ochr â gwerthoedd perchnogion y tir yn y gorffennol. Ganwyd y syniad o gael Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru ganol y 1990au fel gardd fotaneg genedlaethol ar gyfer yr 21fed ganrif, un a fyddai’n ymroi i ymchwil a chadwraeth, bioamrywiaeth, cynaliadwyedd, dysgu gydol oes a mwynhad yr ymwelydd. Pan agorwyd Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru ym mis Mai 2000, daeth y Tŷ Gwydr Mawr, y campwaith pensaernïol gan Foster a’i Bartneriaid, yn eicon ar unwaith i’r gwerthoedd hyn.
Mae’r hanesion sydd gennym am ffynonellau cyfoeth y tirfeddianwyr hyn o’r gorffennol wedi mynd i’r afael yn unig â chynnyrch amlwg y cyfoeth, ac wedi anwybyddu’r anghyfiawnder a’r llygredd arswydus a greodd yr arian hwnnw. Mae hanesion y dynion oedd yn dirfeddianwyr yn wybyddus er bod tipyn llai o sylw wedi’i roi i’r caethweision a oedd yn eiddo iddynt, y diwylliannau a ormeswyd ganddynt, y bobl roeddent yn ymelwa arnynt a’r gweithwyr lleol roeddent yn eu cyflogi. I ryw raddau, y rheswm dros hyn yw bod y dosbarthau is wedi eu colli, eu hanghofio neu eu claddu gan haneswyr oherwydd bod gan y rheiny fwy o ddiddordeb yn y bobl a ystyrient yn enillwyr hanes.
Y Cwmni East India oedd y ffynhonnell fwyaf dylanwadol o gyfoeth hanesyddol ar yr hyn a elwid yn Ystâd Middleton cyn creu’r Ardd Fotaneg. Roedd tri brawd Middleton o Gaer wedi helpu sefydlu’r cwmni East India ym 1600 er mwyn masnachu mewn a sbeisiau proffidiol iawn. Eu harian hwy, ar ffurf cymynroddion oddi wrth y brodyr Middleton, a oedd i gyd wedi marw ar fordeithiau’r cwmni East India, a alluogodd Ystâd Middleton i gael ei datblygu. Roedd honno hefyd yn cynnwys tŷ sylweddol o’r ail ganrif ar bymtheg gyda gardd ddŵr gysylltiedig ffasiynol iawn ar yr hyn yw’r tir porfa yng Ngwarchodfa Natur Genedlaethol Waun Las erbyn hyn.
Dau gan mlynedd yn ddiweddarach, dychwelodd William Paxton i Brydain o fod yn Feistr y Bathdy yn Bengal dros y cwmni East India. Gyda’r holl gyfoeth roedd wedi ei wneud, cyflogodd dîm mawr o weithwyr i greu’r hyn a ystyrid yn un o dirweddi mwyaf godidog ym Mhrydain neu Gymru? o Gyfnod y Rhaglywiaeth. Yn ystod y cyfnod hwn, datblygodd y Cwmni East India i’r fath raddau nes iddi gipio rheolaeth dros rannau helaeth o is-gyfandir India a gwladwriaethu rhannau o dde ddwyrain Asia, gan gynnwys Hong Kong. Mewn gwirionedd creodd y Cwmni yr hyn a ddaeth yn Ymerodraeth Brydeinig yn Asia.
Ond nid oedd pob hanesydd yn ganmoliaethus. Mewn llythyr at Mohandas Gandhi1 ifanc ym 1908 ysgrifennodd Leo Tolstoy fel hyn: ‘A commercial company enslaved a nation comprising two hundred millions. Tell this to a man free from superstition and he will fail to grasp what these words mean.’ Roedd portread yr hanesydd Will Durant o’r Unol Daleithiau o gorfforaeth yn rhedeg yn wyllt, “overrunning with fire and sword a country temporarily disordered and helpless, bribing and murdering, annexing and stealing”, yn gryn sioc i’w ddarllenwyr ym 19302.
Felly, sut dylem ni weld y cyfoeth a grëwyd gan William Paxton? Mae rhai adroddiadau am ei fywyd yn awgrymu iddo wneud ei arian drwy waith caled, gan fentro a bod yn ddyn busnes medrus. Ond yn 2019 yn unig, drwy waith caled grŵp hanes gwirfoddol yr Ardd Fotaneg, daethom i wybod sut oedd Asiantaeth Paxton wedi cyllido’r Llywodraethwr Cyffredinol Richard Wellesley yn y rhyfel yn erbyn Tipu Sultan Mysore ym 1798-1799. Oherwydd y gwrthdaro hwnnw cynyddwyd tiriogaeth y Cwmni East India yn sylweddol. Gwyddom hefyd fod Paxton wedi defnyddio’r ystâd hon i ddangos ei hun er mwyn dod yn bwysig yn gymdeithasol, a gwariodd ffortiwn yn ceisio llwgrwobrwyo neu ddylanwadu ar etholwyr Sir Gaerfyrddin i’w wneud yn AS arnynt. Mae’r awdur William Dalrymple3 yn ddiweddar wedi dangos sut byddai dynion y Cwmni East India, fel Robert Clive, yn defnyddio arian wedi ei ddwyn o India i brynu ASau a seddi yn senedd Prydain. Cefnogodd y Senedd y Cwmni gyda grym y wladwriaeth oherwydd roedd nifer o ASau yn gyfranddalwyr yn y Cwmni East Inda, a byddai unrhyw weithredu yn erbyn y cwmni wedi effeithio ar eu cyfoeth personol hwy.
Ar ôl marw Paxton ym 1824, gwerthwyd ei ystâd i’r teulu Adams, sef Abadam yn ddiweddarach. Gwnaethant hwy eu ffortiwn, yn rhannol o leiaf, o gadw unigolion yn gaethion. Drwy’r dull atgas hwn, yn Jamaica a Barbados, gwnaethant ffortiwn anferth. Rhaid ystyried y digwyddiadau ffiaidd hyn nid ar eu pen eu hunain ond fel rhan uniongyrchol o’r byd rydym yn byw ynddo heddiw.
Erbyn hyn mae gennym lawer iawn o wybodaeth am y teuluoedd Middleton, Paxton ac Adams/Abadam. Cyhoeddwyd yn rhain gennym eisoes fel tudalennau gwe a blogiau i esbonio wrth ein hymwelwyr am hanes cymdeithasol y tir hwn. Ond pe byddem yn ystyried trosiad y glorian gymdeithasol, mae’r hanesion rydym wedi eu hadrodd mor anghytbwys fel nad ydynt yn adlewyrchu gwerthoedd ac ymrwymiad yr Ardd Fotaneg i gynhwysiant. Felly, rydym wëid penderfynu gwneud rhagor o waith ymchwil i sicrhau bod ein gwefan yn adroddiad teg a chyfiawn. Yn y cyfamser, mae rhai tudalennau gwe wedi eu dileu a chânt eu hadolygu ymhellach maes o law.