Lleolir yr Ardd rhyw 10 munud o’r M4 a munudau o’r A48 yn Sir Gaerfyrddin, rhwng Cross Hands a Chaerfyrddin.
Ar gyfer defnyddwyr Satnav, ein côd post yw SA32 8HN.
Dewch i’r Ardd gan ddefnyddio trên, bws neu beic a mwynhewch mynediad hanner-pris – gwelwch dudalen Good Journey yr Ardd.

Hyd eich siwrnai:
- Abertawe – 30 munud
- Caerdydd – 55 munud
- Bryste – 1 awr 30 munud
- Canolbarth Lloegr – 3 awr
Mae manylion teithiau penodol isod:
Gyrru o Abertawe
Cymerwch yr M4 i’r gorllewin i Gaerfyrddin a gwasanaethau Pont Abraham. Ar y cylchfan, cymerwch yr ail allanfa er mwyn ymuno â’r A48 i gyfeiriad Caerfyrddin. Ar gylchfan Cross Hands, cymerwch y trydydd allanfa ac aros ar yr A48. Ar ôl rhyw 4 milltir mae ffordd ymadael wedi’i arwyddo y B4310 i Nantgaredig. Cymerwch hon a dilyn yr arwyddion brown i Ardd Fotaneg Genedlaethol Cymru
Gyrru o Gaerfyrddin
Cymerwch yr A48 i gyfeiriad Abertawe, ac ar ôl tua 8 milltir cymerwch y ffordd ymadael a arwyddwyd y B4310 i Nantgaredig. Dilynwch yr arwyddion brown i Ardd Fotaneg Genedlaethol Cymru.
Tacsi
Bydd mynd i’r Ardd o orsaf reilffordd Caerfyrddin yn costio rhwng £15 a £20, o orsaf reilffordd Llandeilo rhwng £17 a £22, ac o orsaf reilffordd Abertawe £30-£40.
Tacsis Eifion (Cross Hands) – 01269 831999
Chris Cars (Caerfyrddin) – 01267 234438
Tacsis Cross (Cross Hands) – 01269 841200
Tacsis Fiona (Caerfyrddin) – 07732 885482
Tacsis Llandeilo – 01558 822020
Bws
Caerfyrddin
Mae’r bws 279 yn gadael gorsaf bws Caerfyrddin am 11.05, yn aros yng ngorsaf reilffordd Caerfyrddin am 11.08, gan gyrraedd yr Ardd am 11.30.
Mae’r daith yn ôl am 4.25yp, yn galw yn yr orsaf reilffordd am 4.47yp, ac yn ôl yn yr orsaf bws am 4.50yp.
Mae bws cynharach yn mynd yn ôl i Gaerfyrddin am 1.10yp. Darperir y gwasaneth gan Gyngor Sir Caerfyrddin, ond does dim gwasnaeth ar Ddydd Llun, Ddydd Gwener, Dydd Sul, a gwyliau banc. Nid yw’r Ardd yn gyfrifol am unrhyw newidiadau i’r amserlen ar unrhyw ddiwrnod.
Traws Cymru T1S
Mae’r gwasanaeth TrawsCymru T1S yn darparu un daith y dydd o Abertawe i’r Ardd. Mae’r bws yn gadael Gorsaf Bws Dinas Abertawe am 12 canol dydd, gan gyrraedd yr Ardd am 12.42yp.
Mae’r daith dychwelyd am 4.19yp, gan gyrraedd yr orsaf bysiau am 5.02yp. Mae’r gwasanaeth wedi’i ddarparu gan First Cymru ac yn rhan o wasanaeth ‘TrawsCymru’ y cwmni. Gall pobl dros 60 mlwydd oed ac eraill gyda thrwydded Consesiwn teithio am ddim ar y gwasanaeth hwn. Nid yw’r Ardd yn gyfrifol am unrhyw newidiadau i’r amserlen ar unrhyw ddiwrnod.
Mae eich tocyn bws yn rhoi hawl i chi gael mynediad i’r Ardd am hanner y pris (yn gymwys yn unig i’r tâl mynediad llawn i oedolion)
Trên
Mae’r Ardd rhyw 8 milltir o orsaf reilffordd Caerfyrddin. Gwelwch dudalen Good Journey yr Ardd.
Mae trenau cysylltu rheolaidd o Gaerfyrddin i Abertawe a Chaerdydd i’r dwyrain, ac Aberdaugleddau ac Abergwaun i’r gorllewin. Mae trenau o Paddington, Llundain, a Birmingham, i Gaerfyrddin yn rhedeg bob rhyw awr trwy gydol y dydd.
Mae’r Ardd rhwy 10 milltir o orsaf reilffordd Llandeilo. Mae gwasanaeth mwy cyfyngedig ar hyd Llinell Calon Cymru, ond nid oes gwasanaeth bws o’r orsaf sy’n cysylltu â’r Ardd.[:en]There is a very limited bus service to the Garden. See the Garden’s Good Journey listing.
Seiclo
Mae pawb sy’n seiclo i’r Ardd, ar ôl cyflwyno eu helmedau er mwyn eu diogelu, yn cael mynediad am hanner y pris (yn seiliedig ar bris llawn tocyn oedolyn). Mae cylch Caerfyrddin–Llanelli o’r Rhwydwaith Seiclo Cenedlaethol, taith 47, a elwir y Llwybr Celtaidd, yn mynd heibio’r fynediad i Ardd Fotaneg Genedlaethol Cymru.
Os na deimlwch chi fod digon o amser gennych i dreulio diwrnod llawn yn yr Ardd, mae ein Canolfan Arddio (nad oes angen tâl mynediad i fynd iddo) yn cynnig lluniaeth ysgafn a wi-fi am ddim.
Teithio mewn Grŵp
Mae’r Ardd Fotaneg yn cydweithio â Thrafnidiaeth Gymunedol Dolen Teifi i alluogi grwpiau a sefydliadau i ymweld â’r Ardd Fotaneg.
Mae Dolen Teifi yn sefydliad di-elw ac yn elusen gofrestredig sy’n anelu at ddarparu cludiant fforddiadwy a hygyrch i unigolion, sefydliadau a grwpiau i helpu i sicrhau newid cymdeithasol yn ein cymuned yn siroedd Caerfyrddin a Cheredigion.
Os ydych yn teithio i’r Ardd Fotaneg drwy Ddolen Teifi, bydd mynediad yn hanner pris.
Cliciwch yma am fwy o wybodaeth am Drafnidiaeth Cymunedol Dolen Teifi yn cynnwys sut i gysylltu â nhw i archebu eich cludiant.
Os oes angen mwy o wybodaeth arnoch o’r Ardd Fotaneg, cysylltwch â angharad.phillips@gardenofwales.org.uk