Dyluniwyd yr Ardd i fod yn hygyrch i bob ymwelydd beth bynnag fo’i allu.

Os ydych yn anabl neu os oes gennych broblemau symudedd, mae sawl dewis ar gael i’ch helpu i archwilio’r Ardd Fotaneg:
Cadeiriau olwyn
Mae gennym nifer o gadeiriau olwyn wrth ein mynedfa i ymwelwyr, y Porthdy, sydd am ddim i’w llogi drwy gydol eich ymweliad.
Gwasanaeth Bygi Gwennol
Gall ein gwasanaeth bygi gwennol rheolaidd fynd â chi i’r rhan fwyaf o rannau’r Ardd Fotaneg, gan gynnwys y parcdir wedi’i adfer, a’ch dychwelyd i’r Porthdy.
Sgwteri Symudedd
Mae gennym bum sgwter symudedd ar gael i’w llogi am £15, ynghyd â blaendal ad-daladwy o £15, sy’n daladwy wrth gyrraedd.
I archebu sgwter, ffoniwch 01558 667148.
Noder: Mae rhai cyfyngiadau ar ble y gellir defnyddio sgwteri yn yr Ardd. Bydd ein tîm yn rhoi canllawiau wrth gyrraedd.
Cyfleusterau ‘Changing Places’
Mae yna gyfleusterau ‘Changing Places‘ ger y Porthdy. Mae ystafelloedd ‘Changing Places’ wedi’u dylunio fel eu bod yn gwbl hygyrch ac yn darparu digon o le ac offer i bobl nad ydynt yn gallu defnyddio’r toiled yn annibynnol. Sylwch os gwelwch yn dda, mae angen allwedd RADAR i gael mynediad i’r ystafell ‘Changing Places’.
Cŵn
Ar wahân i gŵn tywys, dim ond ar ddydd Llun a dydd Gwener y caniateir cŵn i’r Ardd Fotaneg, yn ogystal â phenwythnos llawn cyntaf pob mis.
Beiciau
Er diogelwch ein holl ymwelwyr, nid ydym yn caniatáu beiciau na sglefrfyrddau i mewn i’r Ardd Fotaneg.
Ymwelwyr â’r Ardd Fotaneg
Mae’r Ardd hon yn le arbennig iawn, wedi’i gwasgaru dros 568 erw. Er bod gan lawer o’r safle llwybrau llydan gwastad a chaled, mae rhai llwybrau’n fwy heriol. Gall rhai o’r arwynebau y tu hwnt i’r Ardd graidd fod yn anwastad, yn serth ac yn llithrig. Felly, rydym yn eich cynghori i wisgo esgidiau addas.
Heb gyfyngu ar atebolrwydd GFGC am farwolaeth neu anaf personol a achosir gan esgeulustod, ni all GFGC fod yn gyfrifol os bydd unrhyw anaf yn digwydd.