15 Ion 2026

Blwyddyn o Wyfynod yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru

Grace Brookman

Ar gefn blwyddyn lwyddiannus arall o gofnodi gwyfynod, mae’r tîm o bum gwirfoddolwr Grŵp Cadwraeth yr Ardd Fotaneg yn manteisio ar y cyfle i adolygu eu canlyniadau ar gyfer 2025.

Am y 12 mlynedd ddiwethaf ar bob yn ail nos Lun, mae trap gwyfynod Robinson wedi cael ei osod y tu allan i’r Ganolfan Wyddoniaeth, yma yn yr Ardd Fotaneg. Drannoeth, mae grŵp ymroddgar o wirfoddolwyr cadwraeth y safle — sy’n cynnwys Frances, Maud, Gilly, Hazel, ac Eddie, â chymorth myfyrwyr preswyl y tîm gwyddoniaeth — yn archwilio’r hyn a ddaliwyd.

Mae trapiau Robinson yn cynnwys bwlb golau pwerus uwchben bwced llawn blychau wyau. Mae’r rhain yn cynnig mannau tywyll i wyfynod sy’n hedfan gyda’r nos ac yn hoff o olau ymgartrefu’n ddiogel.

Yn y bore, mae’r gwirfoddolwyr yn trosglwyddo’r gwyfynod a ddaliwyd, yn ofalus, i botiau ar gyfer cael eu hadnabod. Mae hyn yn galluogi iddynt gael eu harchwilio’n fanwl wrth gyfeirio at ystod o gyfeirlyfrau. Er bod adnabod rhai o’r rhywogaethau’n gymharol hawdd, mae eraill yn fwy heriol — a bydd y tîm yn aml yn cael trafodaethau cyfeillgar a brwd cyn dod i gytundeb.

Wedi i’r gwyfynod yn y trap gael eu hadnabod a’u rhyddhau, mae Maud yn lanlwytho faint o bob rhywogaeth a archwiliwyd i iRecord — cronfa ddata cofnodi bywyd gwyllt a weithredir gan y Ganolfan Cofnodion Biolegol. Gall cofnodion a lanlwythwyd i’r gronfa ddata hon gael eu dilysu gan arbenigwyr, i sicrhau eu bod wedi cael eu hadnabod yn gywir cyn cael eu trosglwyddo i Atlas y Rhwydwaith Bioamrywiaeth Cenedlaethol — storfa gyhoeddus fwyaf y DU ar gyfer data am fioamrywiaeth. Felly, mae archwiliadau’r gwirfoddolwyr yn cyfrannu gwybodaeth werthfawr at ddeall tueddiadau cenedlaethol dosbarthiad a helaethrwydd pryfaid.

Y Gaeaf

Ychydig o rywogaethau gwyfynod yn unig sydd wedi ymaddasu i hedfan yn ystod misoedd oerach y flwyddyn, sy’n golygu y bu mis Ionawr a mis Chwefror yn gyfnod tawel yn y trap Robinson — dim ond un rhywogaeth a gofnodwyd (y Crynwr Amrywiol, Orthosia incerta). Fodd bynnag, fe wnaeth y tîm manteisio ar y cyfle i dreulio amser yn astudio eu cyfeirlyfrau, ac ychwanegu at eu gwybodaeth am amseroedd hediadau a phlanhigion bwyd y lindysyn. Arweiniodd hyn at arolwg o goed ar draws yr Ardd Fotaneg, i fonitro’r lindys a fu’n gaeafu — sy’n profi cyflwr tebyg i aeafgwsg er mwyn goroesi’r amgylchiadau garw.

Y Gwanwyn

Wrth i’r tywydd gynhesu, gyda llawer o’r planhigion blodeuol y mae gwyfynod yn ddibynnol arnynt ar gyfer neithdar yn blaguro, cofnododd y gwirfoddolwyr 228 o unigolion a 61 o rywogaethau rhwng mis Mawrth i mis Mai. Mae’r uchafbwyntiau’n cynnwys (o chwith i dde isod): Rhisglyn y Derw (Biston strataria), y Crwbach Mawr (Peridea anceps), a’r Siobyn Gwelw (Calliteara pudibunda) — ffotograffwyd isod gan y Swyddog Ymgysylltiad Cadwraeth, Ellyn.

Yn ogystal â bod yn gyfle i gasglu data gwerthfawr, mae llawenydd y dysgu a’r cysylltiad cymdeithasol y mae’r gwirfoddolwyr yn eu profi wrth gasglu gwyfynod hefyd wedi bod yn amlwg y gwanwyn hwn — cofnodwyd hyn yn nyddiadur Frances, ynghyd â darluniau prydferth o rywogaethau detholedig.

Yr Haf

Roedd mis Mehefin i fis Awst yn gyfnod llawn dop i’r gwirfoddolwyr! Casglwyd dros 900 o wyfynod unigol o 211 o rywogaethau. Mae’r uchafbwyntiau’n cynnwys y Gwyfyn Peli Pinc (Thyatira batis), y Gwalch-wyfyn Helyglys (Deilephila elpenor), a’r Gwyfyn Brith (Biston betularia) — rhywogaeth sy’n adnabyddus am ei rhan yn amlygu damcaniaeth esblygiad trwy ddetholiad naturiol Darwin.

Ym mis Mehefin, daeth y gwirfoddolwyr o hyd i wyau Gwyfyn y Cadno wedi’u dodwy yn y trap. Er mwyn dysgu mwy am gylch bywyd y rhywogaeth hon, magwyd yr wyau’n ofalus dan do nes iddynt droi’n lindys, ac fe’i darluniwyd yn nyddiadur Frances. Cafodd y lindys mawr, blewog hyn eu rhyddhau ym mis Awst er mwyn iddynt barhau i fwydo cyn eu cyfnod gaeafu hir. Roedd archwilio’r broses wedi amlygu sut y mae cylchoedd bywyd rhywogaethau gwyfynod y DU yn dibynnu ar ryngweithiad agos rhwng argaeledd planhigion bwyd penodol, cynefin, a ffenoleg — a gwerth monitro gwyfynod fel rhywogaeth ddangosol er mwyn deall newidiadau amgylcheddol.

Ym mis Gorffennaf, bu’r gwirfoddolwyr yn weithgar yng Ngŵyl BioBlitz gyntaf yr Ardd, trwy gefnogi ein hymwelwyr i fod yn wyddonwyr-ddinasyddion, ac adnabod cynifer o rywogaethau â phosibl dros gyfnod o ddau ddiwrnod ledled y safle — gan arwain at gofnodi 82 o wyfynod! Yn ystod yr haf, bu’r tîm yn rhan o un o ddigwyddiadau’r Geidiaid, ac yn ysbrydoli gwyfynegwyr y dyfodol.

Yr Hydref

Wrth i’r tywydd oeri a throi’n wlypach, roedd nifer y rhywogaethau a’r unigolion a ddaliwyd yn y trap Robinson yn dechrau gostwng. Fodd bynnag, roedd sawl syrpréis ar y ffordd! Ym mis Tachwedd, cofnodwyd Gwyfyn Rhagfyr (Poecilocampa populi) cynta’r flwyddyn — rhywogaeth nad yw’n bwydo fel oedolyn, ac sy’n dibynnu’n llwyr ar storfa o egni a gronnwyd tra oedd yn lindysyn er mwyn goroesi.

Yn ogystal â gosod trap Robinson bob pythefnos, mae trapiau golau symudol yn cael ei gosod yn achlysurol o dan goeden dderw ger y Tŷ Gwydr Mawr. Gwelodd hwn sawl rhywogaeth na chofnodwyd yn unrhyw le arall ar y safle yn 2025, yn cynnwys y Gwyfyn Cennog (Griposia aprilina) prydferth, rhywogaeth sydd â phatrwm cennog i’w hadenydd.

2025 mewn rhifau 

Yn dilyn blwyddyn o waith caled gan y gwirfoddolwyr, yn enwedig wrth adnabod sawl micro-wyfyn cymhleth, cofnodwyd cyfanswm o 195 o rywogaethau. Dyma’r nifer mwyaf a gofnodwyd gan y gwirfoddolwyr mewn unrhyw flwyddyn! Mae’r flwyddyn hon yn cynrychioli 30% o’r rhywogaethau a gofnodwyd ar y safle erioed, ffigur sy’n brawf o waith caled y tîm. Mae saith o’r rhywogaethau a gofnodwyd hefyd o bryder cadwraethol uwch ar Restr Goch Prydain Fawr, ac mae nifer eto heb eu hasesu — mae arsylwadau o’r trapiau yn cynnig data gwerthfawr am statws y poblogaethau. Er bod sawl rhywogaeth o bryder cadwraethol, roedd Adroddiad Cyflwr Gwyfynod 2021 hefyd wedi canfod nad yw helaethrwydd pob rhywogaeth yn gostwng yn y DU. Mae’r Mannog Melynaidd (Rivula sericealis) wedi cynyddu 51% dros y ddeng mlynedd ddiwethaf — tueddiad tebyg i’r hyn a adlewyrchir ar y safle.

Mae’r gwirfoddolwyr yn edrych ymlaen at flwyddyn wych arall o gofnodi gwyfynod yn 2026, ar ôl cyfnod o aeafu haeddiannol!

Os oes gennych ddiddordeb mewn ymuno â gwirfoddolwyr cadwraeth yr Ardd, cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth ac i gysylltu â ni — mae croeso i bobl o bob profiad a gallu!


Cyfeirlyfrau a ddefnyddiwyd at ddibenion adnabod:

  • Moths of Great Britain and Ireland — Marrin Townsend a Paul Waring
  • British Moths  — Chris Manley
  • Field Guide to the Micro Moths — Phil Sterling a Mark Parsons
  • Atlas of Britain & Ireland’s Larger Moths  – Zoe Randle, Les J Evans-Hill, Mark S Parsons, Angus Tyner, Nigel A D Bourn, Tony Davis, Emily B Dennis, Michael O’Donnell, Tom Prescott, George M Tordoff a Richard Fox

Cydnabyddiaethau lluniau’r ffeithlun:


Cefnogir Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru gan Gronfa Rhwydweithiau Natur Llywodraeth Cymru, sy’n ariannu gwaith i gyflawni gwelliannau seilwaith ar Warchodfa Natur Genedlaethol Waun Las, gan ganiatáu i ni reoli’r safle er mwyn gwella bioamrywiaeth ac ymgysylltu ag ymwelwyr â’n treftadaeth naturiol.