4 Gorff 2024

Rhyfeddod y Capiau Cwyr: Archwilio Ffyngau Waun Las

Ellyn Baker

I ddathlu Wythnos Natur Cymru, heddiw rydym yn rhoi sylw i’n casgliad rhyngwladol bwysig o ffyngau capiau cwyr sydd i’w gweld yn ystod yr hydref a’r gaeaf yn nolydd Gwarchodfa Natur Genedlaethol Waun Las. Mae’r ffyngau lliwgar hyn, gyda’u capiau cwyraidd nodedig, yn ddangosyddion ardderchog o gynefinoedd glaswelltir iach.

Mae Cymru’n gartref i rai o laswelltiroedd capiau cwyr pwysicaf y byd. Yn rhyfeddol, mewn dim ond un cae yn yr Ardd Fotaneg, sef Cae Capiau Cwyr, mae yna o leiaf ddeg ffwng sydd wedi’u rhestru’n rhai sy’n agored i ddifodiant gan yr Undeb Rhyngwladol dros Gadwraeth Natur (IUCN). Yn eu plith y mae’r Cap Cwyr Pinc (Porpolomopsis calyptriformis), y Cap Cwyr Ysblennydd (Hygrocybe splendidissima) a’r Cap Cwyr Rhuddgoch (Hygrocybe punicea).

Mae’r ffyngau rhyfeddol hyn yn darparu gwasanaethau hanfodol i ecosystemau, gan gynnwys cyflenwi dŵr a rheoleiddio llifoedd, storio carbon a rheoli erydiad. Maent yn elfennau hanfodol o ecosystemau glaswelltir, lle maent yn gweithredu fel dadelfenyddion, cydymddibynwyr mycorhisol, a phathogenau.

Mewn llai na chanrif, rydym wedi colli dros 97% o laswelltiroedd a dolydd llawn rhywogaethau, ac mae glaswelltir sy’n cael ei ffermio’n ddwys bellach yn gorchuddio bron i hanner tir y DU. Mae ffyngau glaswelltir yn arbennig o fregus pan ddaw hi i aredig a defnyddio gwrtaith. Rydym yn ffermio’n organig yn yr Ardd Fotaneg, gyda phwyslais ar reoli’r tir i feithrin bioamrywiaeth, gan warchod y ffyngau hyn sydd o bwysigrwydd cadwraeth rhyngwladol.

Cefnogir Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru gan Gronfa Rhwydweithiau Natur Llywodraeth Cymru, sy’n ariannu gwaith i gyflawni gwelliannau seilwaith ar Warchodfa Natur Genedlaethol Waun Las, gan ganiatáu i ni reoli’r safle er mwyn gwella bioamrywiaeth ac ymgysylltu ag ymwelwyr â’n treftadaeth naturiol.