10 Gorff 2024

Digideiddio’r planhigion gwasgedig – ein cynnydd hyd yma

El James

Diweddariad gan El James, Swyddog Ymgysylltu Gwyddoniaeth

Trwy gyfrwng y prosiect Planhigion y Gorffennol, y Presennol a’r Dyfodol mae’r broses o ddigideiddio Llysieufa’r Ardd Fotaneg yn mynd rhagddi’n dda!

Yn ôl ym mis Ionawr, ymwelodd y tîm digideiddio â Llysieufa’r Amgueddfa Hanes Natur, Llundain a Llysieufa Gerddi Kew. Cawsom groeso cynnes iawn yn y ddau le ac, yn garedig iawn, aeth y staff â ni ar deithiau manwl y tu ôl i’r llenni. Mae’r ddau sefydliad wedi bod yn digideiddio eu casgliadau yn ystod y blynyddoedd diwethaf, a rhoddodd y daith hon i ganfod y ffeithiau ddirnadaeth amhrisiadwy i ni o’u prosesau a’u profiadau. Daethom oddi yno’n teimlo’n hyderus ynghylch ein llif gwaith digideiddio arfaethedig ac yn awyddus iawn i ddechrau arni!

Ddechrau’r flwyddyn, bu i ni hefyd gynnal dau weithdy ar gyfer gwirfoddolwyr newydd, gwirfoddolwyr a oedd wedi bod yn aros yn amyneddgar iawn ers cyn y Nadolig tra oeddem yn mynd i’r afael â logisteg y llif gwaith. Roedd yn wych hyfforddi pawb yn y broses o osod sbesimenau planhigion ar bapur archifol i’w cadw am yr hirdymor, ac i ddysgu am yr holl ddeunyddiau gwahanol a ddefnyddir yn y cam hwn. Roeddem yn ffodus bod gennym ddeunydd cymharol newydd o Tasmania i weithio gydag ef, deunydd a oedd wedi bod yn eistedd yn ddiogel yn ei flwch gwreiddiol, yn barod i’w osod, ers ei gasglu yn 2008 yn ystod taith casglu hadau.

Mae gwirfoddolwyr yn sylfaenol i’r prosiect, ac maent wedi mynd i’r afael â’r tasgau hynod anodd mewn modd arbennig o dda. Mewn ychydig dros fis, rydym wedi llwyddo i atodi codau bar i fwy na 4,000 o sbesimenau yng nghasgliad James Cosmo Melvill, ac wedi tynnu lluniau 1,000 a rhagor!

Mae’r broses hefyd yn cynnwys y dasg ddyrys o drawsgrifio gwybodaeth ar labeli â llaw, ond rydym wedi cwblhau bron 500 ohonynt. Mae’r rhain yn niferoedd nad oeddem wedi eu disgwyl mor gynnar yn y prosiect, felly rydym yn llawn cyffro am ein bod wedi gwneud cynnydd mor dda.

Ymunodd un gwirfoddolwr penodol, Oscar, â ni yn gynnar ym mis Hydref 2023, ac ers hynny mae wedi bod yn gweithio trwy gannoedd o sbesimenau’r llysieufa. Yn ffodus i ni, nid yw wedi blino ar y gwaith! Isod, mae’n dweud ychydig am ei brofiad hyd yma.

Diweddariad gan Oscar Fox, Gwirfoddolwr yn y Llysieufa

Fel y soniodd El, dechreuais wirfoddoli gyda’r prosiect yr hydref diwethaf, a doedd gen i ddim syniad beth i’w ddisgwyl na pha mor fawr y byddai’r prosiect yn y pen draw. Fy nghyflwyniad cyntaf i’r prosiect oedd gweld y pedwar cwpwrdd anferth a oedd yn llawn o’r sbesimenau i’w rhag-guradu a’u digideiddio. Roeddwn wedi fy nghyfareddu’n llwyr gan yr amrywiaeth eang o blanhigion gwahanol yn y casgliad, yn ogystal â maint rhai o’r ffolderi y cedwid y sbesimenau ynddynt! Yr adeg hon hefyd rhoddwyd y dewis caredig i mi wneud tasgau gwahanol, ond roeddwn yn benderfynol o ddal ati! 

I ddechrau dysgu am y broses, dangoswyd i mi sut y mae planhigion yn cael eu cadw – sef trwy eu gwasgu a’u sychu gyntaf, ac yna eu gosod ar bapur archifol â thâp lliain, yn ogystal â glynu unrhyw labeli â glud hydawdd mewn dŵr, ac ychwanegu pecynnau hadau/darnau lle bo angen. Er mwyn dod i arfer â thrin sbesimenau cain, cefais y dasg o osod ychydig gannoedd o sbesimenau Llysiau’r Gingroen Senecio a oedd wedi bod yn eu blychau, heb eu cyffwrdd, ers eu casglu ‘nôl yn 2004 yn rhan o brosiect ymchwil.

Er efallai y byddai rhai’n ystyried y broses o lynu planhigion ar bapur am oriau di-ben-draw yn ddiflas, deuthum i sylweddoli y gall fod yn waith eithaf therapiwtig wedi i chi gael eich traed danoch!  

Ymhen hir a hwyr, symudon ni ymlaen i dynnu lluniau o’r sbesimenau, a oedd yn gromlin dysg enfawr. Roedd y gwaith o osod yr orsaf ddelweddu a ffurfweddu’r camera i’r holl osodiadau cywir wedi cymryd sbel, ond bu i ni lwyddo’n fuan i ddod o hyd i ansawdd i’r delweddau yr oeddem yn fodlon arno! Ers hynny, rwyf wedi bod yn helpu gyda’r gwaith tynnu lluniau. Erbyn hyn, rydym wedi tynnu lluniau o’r casgliad glaswelltau, hesg a brwyn yn ei gyfanrwydd, a chyfran dda o’r sbesimenau dyfrllys Potamogeton. Mae tynnu eu lluniau i gyd wedi bod yn dipyn o hwyl i mi gan fy mod wedi gweithio allan fy nhrefn fy hun i wneud y broses yn un effeithlon. Mae wedi bod yn brofiad gwych gweld yr holl rywogaethau planhigion gwahanol na fyddwn fyth wedi dod ar eu traws fel arall.

Y cam olaf yn y broses fydd cael gwared ar y ffolderi y cedwir y sbesimenau ynddynt, rhywbeth yr wyf yn edrych ymlaen ato gan fod cyflwr rhai ohonynt yn wael a chan y bydd y ffolderi archifol newydd yn cadw’r sbesimenau’n ddiogel am ddegawdau i ddod.

This image has an empty alt attribute; its file name is Welsh_stamp_colour_PNG-1024x1024.png