4 Meh 2024

Dathlu Peillwyr

Ellyn Baker

Y penwythnos diwethaf buom yn dathlu popeth yn ymwneud â phlanhigion a pheillwyr gyda Gŵyl Peillwyr yn yr Ardd Fotaneg! Daeth y Timau Gwyddoniaeth, Addysg a Garddwriaeth i gyd at ei gilydd i greu arddangosfeydd, gweithgareddau, teithiau, ac arddangosiadau yn canolbwyntio ar bryfed peillio a’r planhigion sy’n dibynnu arnynt.

Mae peillwyr yn dod mewn pob lliw a llun, o löynnod byw lliwgar i gacwn, ac maen nhw’n hanfodol ar gyfer amgylchedd iach a’n bywydau bob dydd. Maent yn mynd o gwmpas eu busnes, gan beillio’r cnydau a’r ffrwythau rydyn ni’n dibynnu arnyn nhw am faeth a hefyd y blodau gwyllt hardd sy’n hanfodol ar gyfer ecosystemau a bioamrywiaeth. Gydag o leiaf 1,500 o rywogaethau o bryfed sy’n peillio planhigion yn y DU, mae ond yn deg inni dreulio’r diwrnod yn dathlu ac yn gwerthfawrogi’r creaduriaid rhyfeddol hyn!

Dechreuodd y diwrnod gydag agor y trap gwyfynod, a oedd wedi denu digon o wyfynod diddorol y noson gynt. Ymhlith uchafbwyntiau’r bore roedd Gwyfyn Peli Pinc (Thyatira batis), Gwyfyn Brith (Biston betularia), Ermin Llwydfelyn (Spilosoma luteum) ac Ermin Gwyn (Spilosoma lubricipeda). Mae gwyfynod yn beillwyr nos bwysig iawn, a chredir eu bod hyd yn oed yn fwy effeithlon wrth beillio blodau na gwenyn yn ystod y dydd! Mae rhai blodau, fel y Gwyddfid (Lonicera periclymenum) wedi’u haddasu’n arbennig i ddenu gwyfynod, gan gynhyrchu arogl melys sydd gryfaf yn y nos. Mae’r blodau hir siâp trwmped yn golygu mai dim ond peillwyr hir-dafod, fel gwyfynod, sy’n gallu cyrraedd y neithdar sydd ynddo.

Nesaf ar y rhaglen oedd taith dywys o amgylch y dolydd gyda Dr Kevin McGinn a rannodd mewnwelediad i’r amrywiaeth cyfoethog o flodau a’r peillwyr y maent yn eu denu. Un rhywogaeth i gadw llygad amdani mewn dolydd llawn blodau menyn yw’r pryf hofran Cheilosia albitarsis, sy’n defnyddio blodau menyn fel ei blanhigyn cynnal larfa. Mae ymchwil yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru wedi dangos bod y rhywogaeth hon hefyd yn bennaf yn porthi ar flodau blodyn menyn, gan weithredu felly fel peilliwr pwysig ar gyfer Blodyn Ymenyn y Ddôl (Ranunculus acris) a Blodyn Ymenyn Ymlusgol (Ranunculus repens).

Bu’r gweithgaredd ‘Adeiladu Dôl’ yn boblogaidd gydag ymwelwyr o bob oed, lle defnyddiwyd deunydd planhigion wedi’i wasgu i greu arddangosfa gydweithredol wych o ddôl blodau gwyllt. Roedd hyn i arddangos ein prosiect Llysieufa newydd a ariennir gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol, lle’r ydym yn anelu at ddigideiddio’r 30,000 o sbesimenau sydd yn ein llysieufa yn y Ganolfan Wyddoniaeth. Wrth gwrs, ni allem ddefnyddio’r sbesimenau llysieufa werthfawr eu hunain ar gyfer yr arddangosfa hon, ond casglwyd ychydig o ddeunydd planhigion o amgylch yr Ardd i greu dôl lawn ac amrywiol erbyn diwedd y dydd!

Roedd gan y Tîm Gwyddoniaeth arddangosfa o hadau, sef ffrwyth peillio, i’w harchwilio o dan y microsgop i arddangos yr hyn sydd i’w gael ym Manc Hadau Cenedlaethol Cymru. Mae perthynas ddiddorol yn bodoli rhwng y Tegeirian y Clêr (Ophrys insectifera), yr ydym wedi’i gadw yn y Banc Hadau, a’r Cacwn Turio sy’n ei beillio. Mae’r tegeirian hwn mewn cuddwisg, gan ryddhau fferomon sy’n arogli fel cacwn turio benywaidd, sy’n denu gwrywod a’u twyllo i geisio paru gyda’r blodyn. Yn y broses, mae’r cacwn turio gwrywaidd yn codi paill ar ei chyrff, ac yn ei gario i’r blodyn nesaf sy’n ei dwyllo, gan beillio’r planhigyn.

Wrth gwrs, ni allem gael diwrnod peillio heb sôn am y Gwenyn Mêl (Apis mellifera) sydd gennym ar y safle! Rhoddodd gwenynwyr yr Ardd gipolwg ar fywyd y tu mewn i’r cychod gwenyn, ac roedd gweithgareddau gwneud canhwyllau cŵyr gwenyn. Fodd bynnag, mae 270 o rywogaethau gwenyn brodorol yn y DU ar wahân i’r Gwenyn Mêl, gan gynnwys cacwn a gwenyn unigol. Mae cacwn, er enghraifft, yn hanfodol ar gyfer peillio planhigion tomato trwy ‘beillio buzz’, lle maent yn dirgrynu eu cyrff i ollwng paill.

Perthynas ddiddorol arall rhwng gwenyn a blodyn yw rhwng Trewyn (Lysimachia vulgaris) a’r Wenynen Trewyn (Macropis europaea). Yn wir i’w henw, mae’r rhywogaeth hon o wenyn unigol yn chwilota bron yn gyfan gwbl ar flodau Trewyn, gan gasglu paill ac olewau blodau o’r planhigyn. Mae’n bwydo’r paill i’w larfa ac mae’r olew yn darparu leinin gwrth-ddŵr i gelloedd y nyth, gan ganiatáu i’r wenynen nythu mewn cynefinoedd gwlyptir.

Roedd gan y Tîm Addysg amrywiaeth o weithgareddau i ymwelwyr gymryd rhan ynddynt. Roedd y cynulleidfaoedd iau yn mwynhau gwneud barcutiaid pryfed peillio, a rhedeg o amgylch yr Ardd gyda gloÿnnod byw lliwgar yn hedfan y tu ôl iddynt yn yr awyr! Glöynnod byw yw rhai o’r peillwyr mwyaf carismatig a phoblogaidd, ac maent yn bwysig ar gyfer amrywiaeth eang o rywogaethau planhigion. Un arall o’r gweithgareddau addysgol oedd cyfrifo milltiroedd gwenyn, lle cafodd ymwelwyr y dasg o ddod o hyd i’r crynodiad mwyaf o neithdar o fewn cwadrat o flodau, a fyddai’n gallu pweru gwenynen am y pellter mwyaf.

Math llai hysbys o beillwyr yw chwilod, sydd wedi bod yn peillio blodau ers miliynau o flynyddoedd. Mae tua chwarter chwilod y DU yn gweithredu fel peillwyr, ac yn cael eu denu at flodau gwastad, agored sy’n caniatáu iddynt bori a bwyta’r paill, wrth drosglwyddo rhai o flodyn i flodyn. Yn y Tŷ Trofannol, efallai eich bod wedi sylwi ar flodyn sydd wedi datblygu mecanwaith gwahanol ar gyfer denu chwilod sy’n peillio – mae gan y Arwm Titan (Amorphophallus titaniwm) un o’r blodau mwyaf mewn maint a mwyaf drewllyd o unrhyw blanhigyn! Yn sefyll 3 medr o daldra, mae’r Arwm Titan yn denu chwilod burgyn trwy ei arogl pwerus o gnawd sy’n pydru – os yw’n blodeuo, mae’n debyg y byddwch yn ei arogli cyn i chi ei weld!

Yn y prynhawn, cafwyd sgwrs gan y Swyddog Gwyddoniaeth, Dr Laura Jones, ar yr ymchwil wyddonol a gynhaliwyd yn yr Ardd Fotaneg i ymchwilio i’r berthynas rhwng planhigion a pheillwyr. Mae’r ymchwil hwn wedi llywio argymhellion ynghylch pa flodau sydd orau i bryfed peillio, a’r hyn y gall pobl ei blannu yn eu gardd i helpu pryfed sy’n peillio. Yna rhoddodd y Tîm Garddwriaeth arddangosiad plannu i ysbrydoli a rhoi enghreifftiau o’r hyn y gallai pobl ei wneud yn eu gerddi neu fannau awyr agored eu hunain. Mae’r holl blanhigion a ddefnyddir ar gael i’w prynu yn ein Canolfan Arddio.

Ar y cyfan, roedd yn ddiwrnod gwych yn rhannu ein gwybodaeth a’n hangerdd am bryfed peillio a phlanhigion, a mwynhaodd yr ymwelwyr hefyd! Dysgon ni am amrywiaeth eang o bryfed peillio a sut gallwn ni helpu i roi hwb i’w niferoedd trwy blannu mwy o flodau cyfeillgar i bryfed peillio yn ein gerddi a’n mannau gwyllt.

Cefnogir Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru gan Gronfa Rhwydweithiau Natur Llywodraeth Cymru, sy’n ariannu gwaith i gyflawni gwelliannau seilwaith ar Warchodfa Natur Genedlaethol Waun Las, gan ganiatáu i ni reoli’r safle er mwyn gwella bioamrywiaeth ac ymgysylltu ag ymwelwyr â’n treftadaeth naturiol.