Mae’r gwenyn cyfrwys yn cadw Lynda ar flaenau ei thraed wrth i’r tymheredd godi ac wrth i’r gwenoliaid duon hedfan fry
Roeddwn yn meddwl na fyddwn yn gallu archwilio’r gwenynfeydd oherwydd y glaw annisgwyl a gawsom yn y bore. Ond, erbyn diwedd y bore, daeth yr haul allan ac ar un adeg cyrhaeddodd y tymheredd 24 gradd Celsius.
Roedd y gwenoliaid duon yn hedfan ac yn sgrechian dros y Cwrt Stablau, sy’n olygfa ac yn sain mor wych.
‘Nawr yw’r adeg o’r flwyddyn y mae’n rhaid i ni fod yn wyliadwrus wrth archwilio ein nythfeydd, gan edrych am arwyddion bod y gwenyn yn bwriadu heidio. Nid y nythfeydd y byddech yn disgwyl eu gweld yn heidio yw’r rhai sy’n gwneud hynny bob tro.
Mae gennyf un cwch gwenyn eisoes ar flwch mag dwbl. Mae’r frenhines wedi sefydlu 10 ffrâm o fag ac mae’r mwyafrif o’r crwybr wedi cael ei ymestyn yn y blwch uchaf. Mae’r cwch gwenyn hwn yn ymddangos yn hapus iawn yn gweithio’n ddiwyd. Mae yno rywfaint o fag dronau ond dim arwyddion o freninesau newydd yn cael eu creu.
Rwy’n dal i fwriadu cadw llygad barcud ar hwn, ac efallai y byddaf yn ei rannu, gan y bydd yn mynd yn llawer rhy uchel i’w reoli’n gyfforddus os a phan y bydd angen blychau ychwanegol arno i gasglu’r storfeydd.
Bu i nythfa arall heidio ar ôl i mi ei hysgwyd, sef rhoi’r nythfa ar grwybr newydd ar ddechrau’r tymor, (mae’n rhoi llawer o waith i’r gwenyn ei wneud oherwydd bod yn rhaid iddynt wneud llawer o gwyr ac ymestyn yr holl fframiau newydd) a dylent fod mor brysur fel nad ydynt yn meddwl am heidio tan yn ddiweddarach yn y tymor – ond Na!
Heddiw, es i mewn i’r cwch gwenyn i ddarganfod wyth cell frenhines. Roedd hyn yn golygu fy mod wedi gorfod mynd ati ar frys i atal gwenyn y cwch hwn rhag heidio. Fel mae’n digwydd, roedd nythfa arall heb frenhines, felly roeddwn yn gallu rhoi cell frenhines i helpu’r nythfa hon, gan helpu’r cwch hwn a sicrhau nad ydym yn colli unrhyw wenyn.
Gall y gwenyn fod yn slei iawn a chuddio celloedd brenhines. Felly, weithiau mae’n rhaid i chi edrych yn ofalus iawn ar y crwybr i ddod o hyd iddynt. Nid yw bob amser yn amlwg. Ac mae’n ein hatgoffa bod yn rhaid i ni ymweld yn rheolaidd â’r gwenynfeydd yr adeg hon o’r flwyddyn.
Os byddwch yn gweld haid o wenyn, peidiwch â chynhyrfu. Mae gwenyn mêl yn ddof iawn ar y cyfan wrth heidio. Maent yn chwilio am safle addas i breswylio a chreu nythfa newydd. Cysylltwch â’ch cangen leol o Gymdeithas Gwenynwyr Cymru, a fydd yn eich rhoi mewn cysylltiad â rhywun a fydd yn gallu casglu a symud yr haid. Gallwch chwilio am WBKA ar Google i ddod o hyd i’r gangen leol.
Ar y cyfan, aeth archwiliadau heddiw yn ôl y bwriad. Gwelwyd llawer o freninesau, yn ogystal ag wyau a larfa. Roedd y gwenyn yn hedfan, yn chwilota ac yn mwynhau’r tywydd da.
Mae ganddynt ddigon o storfeydd i’w cynnal trwy’r cyfnod oer nesaf sy’n dod yn ystod y dyddiau nesaf. Mae paill yn cael ei gasglu, yn bennaf lliw melyn golau/hufennog, a allai fod y blodau clychau’r gog sydd yn doreithiog ger coedwigoedd gwanwyn yr Ardd, neu’r planhigion llyriaid sydd wedi blodeuo’n llawn. Mae’r Ardd yn edrych yn hyfryd wrth i lawer o blanhigion ddod i’w blodau, felly mae yna ddewis ysblennydd i’r gwenyn.
I gloi, dyma ddywediad diarhebol gan geidwad gwenyn o ganol y 17eg ganrif:
Haid wenyn os ym mai au cair
a dalant lwyth wyth ych o wair
Da haid mehefin os da’u hoen
Am haid Gorphenaf ni rown ffloen
A dyma aralleiriad bras i chi: Os ceir haid o wenyn ym mis Mai, byddwn yn talu wyth llwyth o wair yn cael eu tynnu gan ychen. Mae haid ym mis Mehefin yn dda, os yw’r gwenyn yn llewyrchus yr olwg. Ond ni roddwn damaid am haid o wenyn ym mis Gorffennaf.
Lynda Christie
Mai 7, 2020