3 Ebr 2020

Gwnewch eich Lawnt yn Fwy Caredig i Fywyd Gwyllt

Kevin McGinn

Gall lawntiau wedi eu torri fod yn rhan bwysig o erddi, ond os oes gennych le, beth am neilltuo darn o’ch lawnt i natur, a gwneud hwnnw’n ddôl fach eich hun o flodau gwylltion brodorol?

Dychmygwch gymysgedd o borfa dôl a blodau gwylltion lliwgar yn awel yr haf, yn blodeuo am wythnosau lawer ac yn fan i wylio bywyd gwyllt y tu allan i ddrws eich tŷ. Mae dolydd yn hafan i bryfed, fel gwenyn a phili-pala, a hefyd i adar a mamaliaid bach. Os darparwch y cynefin cywir yn eich gardd, bydd bywyd gwyllt yn symud i mewn.

Gall dolydd hefyd gael eu gwneud yn nodwedd effeithiol mewn gardd drwy dorri darnau penodol fel llwybrau troellog, cylchoedd neu ymylon, i roi golwg fwriadol iddyn nhw.

Er y gall datblygu dôl ofyn am gryn amynedd ac arbrofi, cewch eich gwobrwyo maes o law.

Mynd ati

Y cam cyntaf yw dewis darn o’ch lawnt sy’n rhoi’r man cychwyn gorau ichi. Os yw’n bosibl, dewiswch ran heulog o’ch lawnt lle mae’r pridd yn wael ac eisoes yn cynnwys blodau gwylltion neu chwyn lawntiau.

Nod datblygu dôl yw cael cydbwysedd rhwng porfa a chanran uchel o flodau gwylltion. Y math o borfa sy’n ‘dda’ ar gyfer dôl yw’r mathau tenau, llai swmpus fel rhonwellt y ci a pherwellt y gwanwyn. Mae’r rhain i’w cael ym mhob math o ffurfiau a meintiau, ac mae blodau porfa gwyllt yn rhyfeddol o hardd.

Os yw eich lawnt wedi ei thorri’n rheolaidd ers llawer blwyddyn a’r toriadau wedi eu crynhoi heb wrtaith arnynt, mae’n fwy na thebyg fod gennych fan cychwyn perffaith i greu eich dôl eich hun.

Mae ffrwythlondeb y pridd yn bwysig i lwyddo – mae blodau gwylltion yn hoff iawn o bridd gwael. Mae torri’r borfa’n rheolaidd a chasglu’r toriadau’n raddol yn gwneud y pridd yn llai ffrwythlon, a hynny’n gwneud y borfa’n wannach, gan ganiatáu i flodau gwylltion gystadlu.

Os nad ydych yn sicr pa blanhigion sydd gennych eisoes yn eich lawnt, rhowch gynnig arni drwy adael i’r borfa dyfu. Efallai y gwelwch fod blodau gwylltion wedi bod yn tyfu yno drwy’r amser heb ichi sylweddoli oherwydd torri’n rheolaidd. Beth am geisio adnabod y blodau sydd i’w gweld drwy ymuno â Wildflower Hour ar Facebook neu Twitter.

Efallai y gwelwch blanhigion fel y feddyges las, llyriad, meillion gwyn, melynydd, milddail a blodyn menyn. Os byddwch yn lwcus, efallai fod gennych blanhigion fel llygad llo mawr, meillion coch, pysen y ceirw a briwydd felen. Rwyf wedi clywed am degeirian-y-gors deheuol yn tyfu mewn lawnt heb ei thorri!

Mae’n bwysig peidio â defnyddio gwrtaith neu gemegau sy’n bwydo ac yn lladd chwyn mewn dolydd. Dydw i ddim yn hoffi’r rheiny, hyd yn oed mewn lawnt sy’n cael gofal da – maen nhw’n ddrud ac yn gwneud i’r borfa dyfu’n gyflymach a chael ei dorri’n amlach. Mae’r cemegau hyn yn lladd planhigion nad ydyn nhw’n borfa, a’r rheiny’n edrych yn hyll wrth iddyn nhw wywo. Hyd yn oed mewn lawnt sy’n cael gofal da, mae gweld ychydig flodau fel llygad y dydd yn bleser, ac yn sicr felly i bryfed peillio sy’n bwydo ar eu paill a’u neithdar.

Os lawnt gydag ychydig flodau a llawer iawn o borfa gwrs fel rhygwellt yw eich man cychwyn i greu dôl, ceisiwch dorri’ch lawnt yn rheolaidd am y flwyddyn gyntaf a chrynhoi’r toriadau er mwyn gwahanu’r mathau o borfa a gwneud y pridd yn llai ffrwythlon. Ateb mwy grymus ond cyflymach yw codi’r tyweirch a’r pridd uchaf a hau hadau dôl yn yr isbridd gwael dano.

Cyflymu pethau

Er mwyn creu dôl yn gyflymach, gallwch brynu cyfuniadau o hadau dôl brodorol oddi wrth gyflenwyr hadau. Prynwch gymysgedd o hadau wedi’u cynaeafu o ddolydd gwair naturiol, mor lleol â phosibl, i gynnwys mathau a fydd yn gweddu i’ch math chi o bridd a safle. Gallwch hefyd gasglu rhai hadau eich hun, os cewch ganiatâd y perchennog.

Gall cymysgedd o hadau dôl gael ei hau yn yr hydref neu ddechrau’r gaeaf ar ddaear galed neu ar lawnt bresennol. Os byddwch yn hau ar lawnt bresennol, torrwch y borfa’n fyr a’i digroeni â rhaca / cribin i ddatgelu darnau moel o bridd.

Mae plannu plygiau’n ffordd wych i ychwanegu rhywogaethau o flodau gwylltion brodorol ar ddôl sy’n datblygu. Gallwch brynu planhigion fel plygiau neu dyfu rhai eich hun o had, a’r amser gorau i drawsblannu’r rheiny yw diwedd yr haf a dechrau’r hydref. Dewiswch fathau sy’n addas ar gyfer eich trefn o dorri a’ch safle. Ar gyfer mannau sych, heulog mae clafrllys y maes, cribau San Ffraid, pig-yr-aran y weirglodd, llygad llo mawr, milddail, pysen y ceirw a’r bengaled yn ddewisiadau da. Ar gyfer lawntiau gwlyb, mae’r blodyn llefrith, carpiog y gors, bwrned mawr a blodyn ymenyn yn wych – os cyfunwch nhw gyda phethau eraill, byddant yn ymestyn y tymor blodeuo.

Gallwch hyd yn oed ychwanegu bylbiau gwanwyn brodorol sy’n tyfu yng nghanol porfa, fel cennin pedr brodorol neu frithegion.

Pan fyddwch yn chwilio am blanhigion a hadau brodorol ar gyfer eich gardd, ceisiwch gael cyflenwyr dibynadwy sy’n gwerthu defnydd o Brydain, mor lleol â phosibl. Mae planhigion sy’n tarddu’n lleol yn fwy tebygol o addasu at amodau eich gardd a gwreiddio’n llwyddiannus. Mae rhai hadau a phlanhigion ar y farchnad yn cael eu cynhyrchu ymhellach i ffwrdd a gallant fod yn isrywogaethau gwahanol i’n rhai brodorol ni  – gall dod â’r rheiny i mewn ymyrryd ag ecoleg ein rhai brodorol yn y gwyllt.

Mae Wyndrush Wild yn gwerthu cymysgedd o hadau dôl Cymreig wedi eu cynaeafu’n gynaliadwy o ddolydd ffermydd yn Sir Benfro, a gallwch brynu plygiau o blanhigion brodorol Cymreig oddi wrth The Wildflower Nursery a Celtic Wildflowers.

Yr allwedd i lwyddo:

Gall Y Gribell Felen gyflymu datblygiad dôl yn fawr iawn, ac yn wir caiff ei galw’n grëwr dolydd. Caiff ei galw hefyd yn blanhigyn fampir am ei bod yn lled barasitig ac yn bwydo ar borfeydd sy’n gwanhau. Y canlyniad yw mwy o le a golau i flodau gwylltion eraill wreiddio a ffynnu.

Y ffordd orau i ddod â’r gribell felen i mewn i’ch lawnt yw drwy had. Dydy’r hadau ddim yn para’n hir, felly i gael canlyniadau da mae’n hanfodol i’r hadau fod yn llai na chwe mis oed. Heuwch yr had mewn lawnt sydd wedi’i thorri’n fyr a darnau o bridd moel i’w gweld, yn hwyr yn yr haf a dechrau’r gaeaf. Bydd unrhyw gymysgedd da o hadau dôl brodorol yn cynnwys  y gribell felen.

Mae’r pennau aeddfed, wrth gael eu hysgwyd; yn swnio fel maracas. Rhywogaeth flynyddol yw hon, felly er mwyn iddi ddod nôl bob blwyddyn mae’n bwysig gadael i’r hadau ddisgyn cyn torri’r ddôl. Mae rhagor o wybodaeth am dyfu’r gribell felen i’w chael ar wefan Plantlife.

Rheoli dolydd

I reoli eich dôl fach chi, meddyliwch am ddôl neu gae gwair traddodiadol, ei thorri yn yr haf a chludo’r gwair i ffwrdd. Dydy hyn ddim yn golygu mynd i nôl y bladur, oni bai eich bod am wneud hynny!  Bydd peiriant neu strimiwr arferol yn iawn ac ewch drosti lawer gwaith, i ddechrau a’r llafn yn uchel ac yna ei osod yn is yn raddol.

Er mwyn i flodau gwylltion allu ennill, torrwch eich dôl ar ôl i’r hadau ddatblygu. Gadewch y ’gwair’ ar wyneb eich dôl i sychu am ddiwrnod neu ddau er mwyn i weddill yr hadau ddisgyn cyn ichi ei gludo i ffwrdd.

Yn ddelfrydol, peidiwch â thorri tan mor hwyr â mis Medi i gael y nifer mwyaf posibl o rywogaethau sy’n gallu hadu. Fodd bynnag, os hoffech gael lawnt fyrrach drwy wyliau’r haf, gallwch ei thorri o ddechrau mis Gorffennaf. Bydd ei thorri’n gynharach yn golygu colli hadau blodau gwylltion sy’n blodeuo’n hwyr, fel y bengaled a bwrned mawr, ond bydd cyfansoddiad y rhywogaethau’n addasu gydag amser yn ôl eich trefn o dorri.

Dros y gaeaf bydd eich dôl o flodau gwylltion yn edrych fel lawnt fer sy’n cael ei thorri’n rheolaidd.

Maes o law bydd nodwedd a chynefin eich gardd yn gwella bob blwyddyn, yn wobr i chi ac i fywyd gwyllt.

A oes ffyrdd eraill i wneud lawnt yn fwy caredig i fywyd gwyllt?

Bydd torri’r lawnt yn llai aml a chroesawu blodau lawnt yn creu ffynonellau ar gyfer pryfed peillio. Gall gosod llafn y peiriant torri porfa yn uwch ganiatau i flodau fel yn feddyges las, llygad y dydd, dant y llew a meillion flodeuo i ddarparu neithdar – a ffynonellau sy’n llawn paill ar gyfer peillwyr.

Os byddwch am gael lawnt y rhan fwyaf o’r flwyddyn, gallech roi’r gorau i’w thorri yn ystod mis Mai, neu beidio â gwneud y toriad cyntaf tan ddiwedd mis Mehefin.

Hadau ‘dôl’ blynyddol: gwahaniaeth pwysig

Hwyrach eich bod wedi gweld arddangosiadau dramatig o flodau ‘dôl’ liwgar mewn rhai parciau ac ar ymylon ffyrdd cyngor. Cyfuniadau o hadau blynyddol yw’r rhain fel rheol sy’n rhoi un sioe ar dir moel – yn y cartref maen nhw ar eu gorau mewn borderi blodau. Er eu bod yn cael eu marchnata weithiau fel ‘dolydd darluniadol’, dydyn nhw ddim yn ddolydd lluosflwydd gwirioneddol sy’n parhau o flwyddyn i flwyddyn.

Mae cyfuniadau o hadau cae ŷd brodorol sy’n cynnwys blodau gwylltion fel pabi, melyn yr ŷd, bulwg yr ŷd a glas yr ŷd ar gael – mae’r rhywogaethau hyn wedi ymaddasu i dyfu mewn caeau tir âr, ac mae arnynt angen pridd moel i dyfu.

Mae nifer o gyfuniadau o hadau blynyddol yn cynnwys blodau addurnol nad ydyn nhw’n frodorol o rannau eraill o’r byd, fel cosmos a coreopsis, nad ydyn nhw’n flodau gwylltion beth bynnag. Fodd bynnag, o gael eu plannu yn y man iawn mae’r cyfuniadau hyn yn ffynhonnell wych o fwyd i beillwyr. Mae Lucy Witter, sy’n fyfyriwr PhD yn yr Ardd Fotaneg, yn gwneud gwaith ymchwil a’r testun yw researching which of these annual mixes is best pollinators.

Dolydd yn yr Ardd Fotaneg

Os hoffech weld sut beth yw dôl wair neu weirglodd sy’n llawn blodau gwylltion mewn gwirionedd, maen nhw i’w gweld yng Ngwarchodfa Natur Waun Las yn yr Ardd Fotaneg. Prin pum munud ar droed yw Cae Trawsgoed o’r Cwrt Stablau, ac mae’n olygfa ryfeddol ym mis Mai a Mehefin pan fydd cannoedd o flodau tegeirian llydanwyrdd yn eu blodau, ac ym mis Gorffennaf ac Awst mae’r lle’n borffor i gyd wrth i blanhigion fel y bengaled a chribau San Ffraid ddod i’w blodau.

Mae dolydd sy’n llawn tegeirianau hefyd wedi eu creu yn Waun Las drwy drawsblannu gwair glas o un cae i gael arall – darllenwch flog Bruce Langridge yma. Erbyn hyn rydyn ni wedi dechrau defnyddio’r gwair glas ar ddolydd yn Sir Gaerfyrddin sy’n brin o rywogaethau.

Caiff darnau o borfa yn yr Ardd Fotaneg, fel y llethrau islaw’r Tŷ Gwydr Mawr, hefyd eu rheoli fel dolydd ar gyfer bioamrywiaeth, gydag ymylon trwsiadus a llwybrau troellog.

Hoffem weld sut bydd eich dolydd bach chi’n datblygu. Anfonwch luniau atom yn ystod y blynyddoedd nesaf – byddem yn hoffi eu rhannu i ysbrydoli pobl eraill: kevin.mcginn@gardenofwales.org.uk.

Ysgrifennwyd y blog hwn gan Dr Kevin McGinn, Swyddog Gwyddoniaeth i brosiect Tyfu’r Dyfodol.

Mae’r prosiect hwn wedi derbyn cyllid trwy Raglen Datblygu Wledig 2014-2020 – Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru, a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Ardaloedd Gwledig, a Llywodraeth Cymru.