Croeso i gylchlythyr diweddara’r Ardd, os hoffech ei dderbyn yn syth i’ch cyfeiriad e-bost, cofrestrwch yma.
Gweler y cylchlythyr llawn yma.
–
Penwythnos i Chi a’r Ci
Ar y 3ydd & 4ydd o fis Mehefin, gall ymwelwyr i’r Ardd Fotaneg Genedlaetholdod a’u cŵn gyda nhw am ymweliad.
Gwnewch ddiwrnod ohoni a dewch â’ch ffrind gorau am ymweliad i fwynhau erwau’r Ardd.
A pheidiwch ag anghofio, mae POB Dydd Llun yn Ddiwrnod i Chi a’r Ci yn yr Ardd, felly gallwch dod â’ch ci am ymweliad ar y 5ed, 12fed, 19eg & 26ain o Fehefin.
Gweler rhestr llawn o reolau y Diwrnodau i Chi a’r Ci yma. Caiff cŵn mynediad i siop goffi Y Pot Blodyn, ger prif fynedfa’r Ardd, Bwyty’r Tymhorau, y Siop Roddion ac ar brif gyntedd y Tŷ Gwydr Mawr.
Ni chaniateir cŵn ar lwybrau mewnol y Tŷ Gwydr Mawr, tu fewn i Blas Pilipala, na’r maes chwarae i blant chwaith.
Hwyl & Sbri yr Hanner Tymor
Mae dwylo sy’n golchi’r llestri’n gallu teimlo’n feddal fel eich wyneb gyda Fairy Liquid, ond sut wnaeth pobl cadw eu hunain yn lân yn y dyddiau a fu?
Dewch i ddarganfod yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru’r hanner tymor hwn a dysgwch sut i wneud ymolchiad i’r traed, brws dannedd o oes y Tuduriaid a sut wnaeth cyn-berchennog Ystâd Middleton – lle saif yr Ardd nawr – cadw’r pýcs i ffwrdd.
Dyma ond ychydig o weithgareddau i’r teulu fydd ar gynnig yn yr Ardd Fotaneg Genedlaethol yn ystod gwyliau’r ysgol (Mai 27-Mehefin 4)
Bydd yna hwyl a gemau ychydig yn fwy modern i’w fwynhau hefyd, gyda sorbio dŵr, maes chwarae newydd sbon, y ddrysfa wellt a gemau gardd enfawr yn ogystal â hebogyddiaeth, saethyddiaeth, dringo coed ac arddangosfa o dai doliau, ond byddwn yn canolbwyntio’n bennaf ar sut mae pobl ar hyd yr oesoedd wedi llwyddo i gynnal lefel hylendid personol – gyda chymorth enfawr o blanhigion Cymreig gwyllt – o Feddygon canoloesol Myddfai, drwy gyfnod y Tuduriaid a chyfnod y Rhaglywiaeth.
Mae gweithgareddau i’r teulu yn rhedeg ar bob dydd o’r hanner tymor o 12 canol dydd hyd at 4yp.
Mae mynediad i’r Ardd yn £10.50 (gan gynnwys Cymorth Rhodd). Am fwy o wybodaeth am hyn neu ddigwyddiadau eraill, ffoniwch 01558 667149 neu e-bostiwch info@gardenofwales.org.uk
Clwb Archeolegwyr Ifainc
Erioed wedi eisiau bod Indiana Jones neu Lara Croft?
Y gwanwyn hwn, bydd yr Ardd Fotaneg Genedlaethol Cymru yn cynnal clwb newydd cyffrous lle gall pobl ifanc ddysgu popeth am archaeoleg.
Bydd cyfarfodydd yn digwydd rhwng 10 a 12 ar fore Sadwrn cyntaf o bob mis, gyda’r cyfarfod nesaf yn cael ei gynnal ar Fehefin 3ydd.
Mae’r ‘Clwb Archeolegwyr Ifainc’ (CAI) ar gyfer pobl ifanc 8-16 oed. Yng ngyfarfod cyntaf y ‘CAI yn yr Ardd’ byddwn yn dysgu am archaeoleg yr Ardd Fotaneg Genedlaethol Cymru, sydd yn gosod allan ar brosiect adfer sylweddol i warchod ei parcdir hanesyddol, o bwysigrwydd cenedlaethol, yn dyddio’n ôl dros bedwar can mlynedd.
Mae’r parcdir yn safle parc dŵr y Rhaglywiaeth gwych, ynghyd â chyfoeth o olion archeolegol cyffrous.
Yn sesiynau yn y dyfodol rydym yn bwriadu gwneud rhywfaint o gloddio, yn mynd ar dripiau i weld safleoedd archaeolegol eraill, ac archwilio pop math o bethau y mae archeolegwyr yn darganfod. O fymïaid yr Aifft i gylchoedd cerrig, coginio hynafol i gestyll, mae hi’n dweud bod archeoleg yn ymwneud â phopeth ac mae rhywbeth i bawb ei fwynhau.
Cysylltwch ag Alice Day am fwy o wybodaeth, neu dewch ymlaen i sesiwn mis Mehefin.
Ysgrifennwch i yacatthegarden@gmail.com neu ffoniwch 07484 142886.
Wythnos y Gwirfoddolwyr
Mae pob gwirfoddolwr yn Sir Gaerfyrddin yn cael eu gwahodd i Ardd Fotaneg Genedlaethol Cymru ar Ddydd Mercher Mehefin 7fed i ddathlu Wythnos y Gwirfoddolwyr.
Mae gwirfoddolwyr yr Ardd Fotaneg yn cael eu hannog hefyd i ‘Ddod a Ffrind – Am Ddim’ yn ystod yr wythnos arbennig – sy’n rhedeg o Fehefin 1-7.
Ac, am 4yp ar y 7fed, bydd parti barbeciw y mae holl wirfoddolwyr yr Ardd, eu ffrindiau ac unrhyw wirfoddolwyr eraill yn y sir yn cael eu gwahodd.
Mae’r Ardd yn ffodus i gael criw o fwy na 200 o wirfoddolwyr sydd wedi rhoi cymorth gwerthfawr ers cyn i’r Ardd agor yn 2000. O yrru bygi, darparu teithiau tywys, garddio, tynnu lluniau a gwaith swyddfa i helpu gyda gweithgareddau i blant ac ar y dderbynfa, gall rôl y gwirfoddolwyr fod mor amrywiol neu wedi’u ganolbwyntio fel y dymunir gan y gwirfoddolwr. Gall rhai gwirfoddolwyr ond helpu yn dymhorol neu am un brynhawn y mis, ac mae eraill yn cael trefn wythnosol.
Dywedodd cydlynydd gwirfoddolwyr yr Ardd, Jane Down: “Mae gwirfoddolwyr yn aml yr arwyr di-glod o sefydliadau. Yma, maent yn gweithio’n eithriadol o galed y tu ôl i’r llenni i sicrhau bod profiad yr ymwelydd i’r Ardd Fotaneg yn rhagorol.”
Ychwanegodd: “Mae’n briodol iawn bod Wythnos y Gwirfoddolwyr yn rhoi cyfle i ddiolch iddynt am y gwaith hwn. Mae’r ystod o dasgau a gweithgareddau y mae gwirfoddolwyr yn ei wneud yn anhygoel, ac maent yn dangos brwdfrydedd go iawn ac angerdd am yr Ardd.”
Os oes gennych ddiddordeb mewn gwirfoddoli yn yr Ardd Fotaneg, cysylltwch â Jane Down drwy e-bost: jane.down@gardenofwales.org.uk neu dros y ffôn: 01558 667130
Yr Ardd ar ‘The One Show’
Bydd Tŷ Gwydr Mawr yr Ardd Fotaneg Genedlaethol yn ymddangos mewn rhifyn Cymreig arbennig o ‘The One Show’ y BBC, ar Fehefin 2ail.
Bydd rhai o dalentau gorau’r wlad yn perfformio teyrnged i Gymru – ac yn gwneud eu rhan i groesawu setiau cystadleuol o gefnogwyr – cyn Rownd Derfynol Cynghrair Pencampwyr UEFA yng Nghaerdydd.
Cliciwch yma i weld y bennod o Ddydd Gwener ymlaen.