Gardd Fotaneg Genedlaethol CymruNational Botanic Garden of WalesNational Botanic Garden of Wales

Treftadaeth

Treftadaeth yr Ardd yn cynnwys mwy na phedair mil o flynyddoedd o hanes dynol lle mae’r cymunedau sy’n byw a gweithio yma wedi rheoli’r tir, tai a adeiladwyd a theuluoedd a godir i gyd yn arwain at y tirwedd hanesyddol gwych a’r bywyd gwyllt rhyfeddol y mae’n eu cefnogi yn awr.

Llinell Amser Ystad Middleton – Archaeoleg a Hanes

1600

Teulu dylanwadol o anturiaethwyr masnachol morwyol yw’r teulu Middleton ac meant ymhilth sylfaenwyr Cwmni India’r Dwyrian. Adeiladant blasty yn Llanrthne tua 1650 gyda’r cyfoeth a ddaeth i’w rhan wrth fasnachu mewn planhigion ecsotig.

Mae gwerth aruthrol i sbeisys megis nytmeg oherwydd eu priodweddau iachusol, gwirioneddol o dychmygol, ar adeg pan fo plâu yn dychwelyd yn gyson.

1700

1744 – geni Syr William Paxton. Yn ddeuddeg oed ymuna â’r llynges a gwna ei ffordd ei hun yn y byd. Fel y teulu Middleton gynt, deillia llawer o gyfoeth Syr William o Gwmni India’r Dwyrain. Yn 1789, mae’n pruynu Ystad Middleton am tua £40,000.

Tua 1795 caiff Neuadd newydd ei chynllunio a’I hadeilladu gan y pensaer Samuel Pepys Cockerell. Dyma ‘un o blastai mwyaf ysblennydd de Cymru’, ac un a’r parcdiroedd Rhaglywiaethol gorau ym Mhrydain. Yn ôl pob tebyg, Samuel Lapidge, prentis ac olynydd i Capability Brown a gynlluniodd y parcdir hwn.

1800

Rhwng 1806 a 1809 caiff Tŵr Paxton ei adeiladu i anrhydeddu’r arwr cenedlaethol a chydforwr i William Paxton yr Arglwydd Nelson. Yn 1815, mae paentiadau Thomas Hornor o’r ystad yn llwyddo i ddal union dirwedd y llynnoedd, sgydau, y golygfeydd eang a’r rhodfeydd ysgubol.

1824- Paxton yn marw. Mae’r Ystad yn cael ei phrynu gan Edward Adams, ond dadfeilia wrth i gyfoeth y teulu leihau.

1900

Ar ddiwedd y Rhyfel Byd Cyntaf, mae disgynyddion Adams yn gwerthu’r ystad ac ymfudo i Dde Affrica.

Yn 1931 mae’r plasty’n llosgi’n ulw tra’i fod ym mherchenogaeth Lefftenant-cyrnol William N. Jones ar y pryd. Mae Cyngor Sir Gaerfyrddin yn prynu’r ystad yn a 1930au, ac yn ei rhannu yn saith uned fferm gychwynnol i’w gosod ar brydles.

2000

Mae’r Ardd yn agor ym Mai 2000, a Thŷ Gwydr Mawr, arobryn yr Arglwydd Foster yn ganolbwynt iddi. Gyda’i chenhadaetrh i gadw, addysgu ac ysbridoli, nid dim ond lle prydferth i ymweld â hi yw’r Ardd heddiw, ond lle hynod ddiddorol a pherthnasol hefyd.