Ymdrochi yn y Goedwig

Sad 27 Gorff 2024 5:22yb - 5:22yb Am ddim gyda mynediad

Ystyr ymdrochi yn y goedwig yw’r  broses o foddi eich synhwyrau’n araf ac yn fwriadus yn y goedwig dan ganopi’r coed. Mae’r arfer yn deillio o Siapan lle dechreuodd yr arfer o “Shinrin-yoku” yn y 1980au i fynd i’r afael ag effeithiau gorweithio ymhlith gweithwyr.

Mae gwyddoniaeth yn dangos bod ymdrochi yn y goedwig yn cael effeithiau trawsnewidiol ar ein llesiant meddyliol a ffisegol. O leddfu tyndra a gofid i ganolbwyntio’n well a bod yn fwy creadigol, mae gwaith ymchwil wedi dangos bod buddiannau ailgysylltu â natur yn eang.

Mae sesiwn o ymdrochi yn y goedwig yn golygu cerdded yn fwriadus gydag arweinydd yng nghanol y coed, a’r hyn sy’n ei wneud yn wahanol i heicio yw ei fod yn araf, nid yw’n bell iawn, a’r bwriad yw ailgysylltu â natur ac â ni’n hunain.

Yn ystod y daith, bydd tywysydd yn arwain y rhai sy’n cymryd rhan drwy gyfres o wahoddiadau bwriadus, fel canolbwyntio ar eu hamrywiol synhwyrau a bod yn fwy ymwybodol o’r hyn sydd o’u cwmpas.  Mewn gwahanol fannau yn ystod y sesiwn caiff y cyfranogwyr eu gwahodd hefyd i oedi, eistedd a myfyrio, ac mae’r arferion hyn yn helpu symud pobl allan o’u meddwl ac i mewn i’r amgylchedd o’u cwmpas.

Ar ddiwedd sesiwn o ymdrochi yn y goedwig bydd seremoni de anffurfiol a thamaid i aros pryd. Mae’n ffordd hyfryd i ddod â’r sesiwn i ben, rhannu rhai o’r uchafbwyntiau gyda’n gilydd a dechrau symud allan o’r goedwig ac yn ôl i fywyd pob dydd.

Cewch wybod rhagor am fuddiannau ymdrochi yn y goedwig a sut i drefnu yma.


Bywgraffiad:

Mae Rebecca wedi cynhwyso fel tywysydd ymdrochi yn y goedwig ac yn un o sefydlwyr Forest Connections. Mae ganddi hefyd 15 mlynedd o brofiad fel hyfforddwraig llesiant a gwytnwch, mae’n awdur ac yn hwylusydd, yn cefnogi pobl gyda’u hiechyd meddwl.

Fel nifer o bobl, mae Rebecca wedi dioddef cyfnodau o iselder ysbryd a phryder yn ystod ei hoes ac wedi cael profiad uniongyrchol o rym natur i wella’r meddwl a’r corff.

Fel tywysydd ymdrochi yn y goedwig, mae Rebecca yn gweithio gydag unigolion, grwpiau a sefydliadau sydd ag angen ailgysylltu â natur, eu hunain a hyd yn oed rhywbeth mwy.