Dros y pum mlynedd diwethaf, mae’r prosiect Adfer Parcdir Godidog wedi adfer dau lyn, gorlifannau a rhaeadr.
Mae dau argae newydd, chwe phont newydd a milltiroedd o lwybrau newydd yn cysylltu’r dirwedd hanesyddol hon. Mae un bont yn eistedd uwchben y rhaeadr lle cewch y teimlad unigryw o fod yng nghopi’r coed gyda’r dŵr yn baglu wrth eich traed.
Darganfyddwch fwy am ecoleg a hanes y safle, a’r broses ddylunio a pheirianneg gymhleth a wnaeth y cyfan yn bosibl.
Bydd y daith yn para tua dwy awr ac am ddim ond mae mynediad arferol yr Ardd yn berthnasol.
Cofiwch, os oes tywydd garw, efallai y bydd angen i ni ganslo’r daith ar fyr rybudd.
Dyddiadau eraill i’r daith:
Dydd Iau 20 Hydref 2022
angharad.phillips@gardenofwales.org.uk neu ffoniwch 01558 667177