Ymunwch â ni am sgwrs gyda’r Pennaeth Ystadau, Tom. Bydd yn siarad am y prosiect mwyaf uchelgeisiol o fewn yr Ardd Fotaneg, y Goedfa.
Nid oes angen archebu lle, dim ond cyfarfod ger mynedfa’r Coedfa am 12yp.
Mae’r Goedfa hon yn dal yn ifanc ac yn dal i ddatblygu – plannwyd mwyafrif y coed ar ôl agor yr Ardd Fotaneg hon yn y flwyddyn 2000. O fewn man cysgodol o goed brodorol Cymreig cewch adrannau’n benodol ar ranbarthau rydym yn rhoi blaenoriaeth iddynt ar y dechrau – Tsieina, Gogledd America a De America.