Penwythnos Mawr y Bandiau
Mae yna Benwythnos Mawr y Bandiau i’w fwynhau’r mis hwn yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru, gan gynnwys pedwar band yn chwarae ar bedwar dyddiad, dros ddau benwythnos.
Y band i chwarae’n gyntaf ar lwyfan y Tŷ Gwydr Mawr fydd Band Arian Tref Rhydaman, a fydd yn chwarae rhwng 1yp-3yp ar ddydd Sadwrn, Medi 17eg.
Bydd y band Back Track yn perfformio ar ddydd Sul Medi 18 rhwng 1yp-3yp yn y Tŷ Gwydr Mawr.