Dathlu Ein Peillwyr
Yr Ardd yw’r lle perffaith i ddysgu am swyddogaeth hanfodol peillwyr yn ein bywydau, drwy fynd ar deithiau arbennig drwy weirgloddiau, gweld arddangosiadau, rhoi cynnig ar gadw gwenyn a chlywed rhai o brif arbenigwyr Prydain yn mynd â chi i mewn i fywyd cyfrinachol pryfetach.
Bydd naturiaethwyr amlwg o’r Ymddiriedolaeth Gwarchod Cacwn, BugLife, PlantLife, yr Ymddiriedolaeth Gwarchod Pili-pala a’r Ymddiriedolaeth Coedlannau yn cymryd rhan ynghyd ag arbenigwyr cadwraeth yr Ardd ei hun.
Lawrlwythwch yr Amserlen lawn YMA
Roedd yr awdures Jean Vernon, a fydd yn arwain cyfres o deithiau cerdded ymhlith y gwenyn, yn dweud bod yr Ardd Fotaneg y lle gwych i ddysgu am fyd natur a chael profiad gwirioneddol ohono.
Mae planhigion a pheillwyr yn mynd law yn llaw, meddai. Esblygodd y ddau beth gyda’i gilydd ac mae arnynt angen ei gilydd i fodoli. Felly mae’r Ardd Fotaneg yn lle delfrydol i fi barhau fy ymdrech i ddatrys ac esbonio byd cyfrin ein peillwyr – yn enwedig ein gwenyn.
Yn ogystal â’r teithiau bywyd gwyllt, sgyrsiau, cerdded ac arddangosiadau, gallwch roi cynnig ar ‘bingo gwenyn’ Jean a cheisio adnabod yr holl fathau o wenyn cyffredin. Gall eich wyneb gael ei beintio, a gallwch weld pa blanhigion sy’n dda i beillwyr y dylech yn wir fod yn eu plannu yn eich gardd fach gefn chi – a byddwch yn gallu eu prynu hefyd.
Mae swyddog gwyddoniaeth yr Ardd, Dr Laura Jones yn dweud bod gwarchod peillwyr yn eithriadol o bwysig a bydd y digwyddiad hwn yn dangos ichi sut. Os paratowch yr amgylchedd yn gywir heb fawn a dewis y planhigion gorau – ac mae gennym blanhigion ar gyfer pob tymor! – bydd natur yn blodeuo, boed mewn blwch bach ar y sil ffenestr, mewn tŷ gwydr, gardd fach ar batio neu ddarn o dir mwy o faint – hyd yn oed os bydd gennych gae rydych am ei wneud yn lle gwyllt eto!
Profiad Gwenyn
Dewch yn agos a phersonol gyda’n gwenyn ar Benwythnos Peillwyr.
Dewch i wisgo un o’n siwtiau gwenyn a chwrdd â’r gwenyn yn ein Gardd Gwenyn. Bydd sesiynau ar gael trwy gydol y dydd.
I archebu sesiwn cliciwch YMA
Bydd angen esgidiau cadarn. Uchder 1 metr o leiaf.
Bydd Gŵyl Peillwyr yr Ardd Fotaneg yn cael ei chynnal ddydd Sadwrn 20 Mai (Diwrnod Gwenyn y Byd) a dydd Sul 21 Mai.
Tâl mynediad arferol yr Ardd Fotaneg.