Gŵyl BioBlitz

Sad 18- Sul 19 Gorff 2026
Am Ddim - Gyda Mynediad

Ymunwch â ni am ddau ddiwrnod o ddarganfod ar draws yr Ardd Fotaneg a Gwarchodfa Natur Waun Las, gan archwilio rhyfeddodau gwyllt ein tirwedd nodedig.

Mae BioBlitz yn ras yn erbyn amser i ddod o hyd i gymaint o fywyd gwyllt â phosibl dros gyfnod penodol a’i adnabod, gan greu ciplun o amrywiaeth rhywogaethau mewn lleoliad penodol. Gallwch ein helpu i gofnodi cymaint o rywogaethau â phosibl mewn 48 awr, a bod yn rhan o ddathliad mawr o fywyd gwyllt a chadwraeth Cymru.

Beth i’w Ddisgwyl:

  • Bydd sefydliadau cadwraeth ac arbenigwyr o bob cwr o Gymru yn ymuno â ni
  • Teithiau tywys bywyd gwyllt a gweithdai adnabod
  • Sgyrsiau gan wyddonwyr a chadwraethwyr arbenigol
  • Gweithgareddau cofnodi bioamrywiaeth ymarferol i bob oed
  • Archwiliwch ein casgliadau botanegol a’n gwarchodfa natur

Mwy o wybodaeth i ddilyn. Yn y cyfamser, os hoffech ddysgu mwy am yr hyn a wnaethom a’r hyn a ddarganfuom yn ystod Gŵyl BioBlitz y llynedd, gallwch ddarllen y blog yma.