Gweminar Gwenyn Mêl
Ymunwch â Dr Laura Jones, Swyddog Gwyddoniaeth yn yr Ardd Fotaneg, a Dr Douglas Jones, Rheolwr Prosiectau Casgliadau Cyhoeddedig Llyfrgell Genedlaethol Cymru am gipolwg hynod ddiddorol i wenyn mêl.
Yn ystod y digwyddiad, bydd Laura yn datgelu rhai o’i darganfyddiadau wrth ymchwilio hoff blanhigion y wenynen fêl, cyn i Douglas gyflwyno casgliad Cymdeithas Rhyngwladol Ymchwil Gwenyn, gan amlygu rhai o’r eitemau sydd yn ymwneud a gwenyn a chadw gwenyn sydd i’w weld yng nghasgliad print y Llyfrgell.
Mae’r digwyddiad hwn yn cael ei gynnal mewn partneriaeth rhwng Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru a Llyfrgell Genedlaethol Cymru.