Mae Dydd Mercher Mwdlyd yn awr o hwyl yn y goedwig yn yr Ardd Fotaneg, wedi’i anelu at blant cyn-ysgol (1 oed – 4 oed).
Mae’n sesiwn ddwyieithog lle mae’r plant yn dysgu am natur a’r tymhorau. Bydd y plant yn archwilio’r coetir gyda’u hoedolion a gyda’i gilydd byddant yn cael y cyfle i gymryd rhan mewn helfeydd trysor, crefftau, coginio dros y tan, straeon a chaneuon.
Dewch draw, dysgu, archwilio ac ymuno yn yr hwyl!
Mae archebu lle yn hanfodol ar gyfer y sesiwn hon:
O hyn ymlaen, fydd Dydd Mercher Mwdlyd gyda ffi o £1* ar gyfer pob plentyn ac mae mynediad arferol i’r Ardd Fotaneg yn berthnasol.
*Nodwch na ellir ad-dalu’r ffi o £1.
Noder bod gennym system archebu newydd. Ar ôl archebu lle, os na allwch fynychu’r sesiwn am unrhyw reswm, a allwch anfon e-bost i angharad.phillips@gardenofwales.org.uk neu ffoniwch 01558 667177 i ganslo eich lle gan fod galw mawr am y sesiwn hon.