Ymunwch â’r arbenigwyr bywyd gwyllt o Tadorna Tours am ddiwrnod o ddod i adnabod adar o amgylch yr Ardd Fotaneg.
Cyfarfod am 11am y tu allan i Neuadd yr Apothecari – gwyliwch am faner Tadorna. Byddwn allan am oddeutu tair awr. Bydd y llwybr o amgylch y llynnoedd ac ar draws caeau cyfagos, gan ddod i adnabod yr holl wahanol rywogaethau adar ar olwg a sŵn.
Dewch â’ch ysbienddrych eich hun a chinio / picnic.
6-16 oed, £5 y plentyn (tâl ar y diwrnod) ynghyd â thaliadau mynediad arferol. Nid oes angen archebu ymlaen llaw.