Cwrs Planhigion Tŷ: Bromelia, Tegeirianau a Phlanhigion Suddlon
Cyflwyniad i’r gofal a’r amodau tyfu sydd eu hangen ar y grwpiau hyn o blanhigion yn y cartref. Bydd y cwrs hwn yn ymdrin â phopeth o ddewis y planhigion cyntaf i’w prynu, gofal a chynnal a chadw cyffredinol, a sut i gael mwy o blanhigion am ddim. Bydd y cwrs hwn yn cynnwys sesiynau theori ac ymarferol.
Rhaid archebu ymlaen llaw. £30 (£27 i Gonsesiynau & Aelodau’r Ardd) sy’n cynnwys mynediad i’r Ardd. I archebu, ffoniwch 01558 667150 neu ewch i’n tudalen Eventbrite os gwelwch yn dda.
Caiff un lle ar bob cwrs i oedolion cymhorthdal llawn a gall ymgeiswyr wneud cais i Brosiect Tyfu’r Dyfodol trwy lythyr cyfeirio gan feddyg teulu neu elusen gofrestredig i gtfadmin@gardenofwales.org.uk. Wedi’i chynnig ar sail gyntaf i’r felin.
Cwrs gan brosiect Tyfu’r Dyfodol yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru.
Mae’r prosiect hwn wedi derbyn cyllid trwy Raglen Datblygu Wledig 2014-2020 – Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru, a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Ardaloedd Gwledig, a Llywodraeth Cymru.