Cwrs Cynnal a Chadw ac Atgyweirio Offer Garddio
Dysgwch sut i gynnal ac atgyweirio eich offer llaw garddio’n gywir, gan gynnwys secateurs, offer tocio, ffyrch bach a thryweli yn ystod y sesiwn ymarferol hon dan arweiniad Hyfforddwr Garddwriaeth Tyfu’r Dyfodol, Ben. Caiff y gwahanol fathau o offer llaw garddio a’u deunyddiau eu trafod, yn ogystal â sesiwn fanylach ar hogi secateurs.
Rhaid archebu ymlaen llaw. 10yb-2yp. £30 (£27 i Gonsesiynau & Aelodau’r Ardd) sy’n cynnwys mynediad i’r Ardd. Am fwy o wybodaeth, gan gynnwys sut i archebu, ffoniwch 01558 667150 neu ewch i’n tudalen Eventbrite os gwelwch yn dda.
Cwrs gan brosiect Tyfu’r Dyfodol.
Mae’r prosiect hwn wedi derbyn cyllid trwy Raglen Datblygu Wledig 2014-2020 – Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru, a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Ardaloedd Gwledig, a Llywodraeth Cymru.