Bydd y cwrs theori hwn yn canolbwyntio ar gynllunio a phlannu perllan yn yr ardd gefn. Bydd y cwrs yn ymdrin â dewis cyltifarau, cyfnodau blodeuo a pheillio, y gwahaniaeth rhwng coed diploidaidd a thriploidaidd, a sut i ymgorffori’r coed mewn gardd gefn heb gymryd gormod o le.
Bydd yna hefyd sesiwn fer yn ymdrin â’r gwahanol fathau o goed ffurf hyfforddedig.
Rhaid archebu ymlaen llaw. 10yb-2.30yp. £30 (£27 i Gonsesiynau & Aelodau’r Ardd) sy’n cynnwys mynediad i’r Ardd Fotaneg. I archebu, ffoniwch 01558 667150 neu ewch i’n tudalen Eventbrite os gwelwch yn dda.
Caiff un lle ar bob cwrs i oedolion cymhorthdal llawn a gall ymgeiswyr wneud cais i Brosiect Tyfu’r Dyfodol trwy lythyr cyfeirio gan feddyg teulu neu elusen gofrestredig i gtfadmin@gardenofwales.org.uk. Wedi’i chynnig ar sail gyntaf i’r felin.
Cwrs gan brosiect Tyfu’r Dyfodol yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru.
Mae’r prosiect hwn wedi derbyn cyllid trwy Raglen Datblygu Wledig 2014-2020 – Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru, a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Ardaloedd Gwledig, a Llywodraeth Cymru.