Cerdded Nordig

Sad 27 Gorff 2024 3:54yb - 3:54yb Am ddim gyda mynediad

Cerdded Nordig yn yr Ardd

Eisiau dechrau’r flwyddyn ar y troed iawn? Yn edrych am ffyrdd i fod tu allan yn natur a symud y corff yn fwy?

Beth am drio Cerdded Nordig? Mae Cerdded Nordig yn ffordd wych o gadw’n heini drwy gydol y flwyddyn – ac oherwydd ei fod yn seiliedig ar gerdded arferol, mae’n addas i gynifer ohonom. Gan ddefnyddio polion a thechneg arbenigol, mae Cerdded Nordig yn defnyddio hyd at 90% o gyhyrau’r corff – sy’n golygu ein bod ni’n cael ymarfer corff llawn. Ychwanegwch at hynny fanteision lles o fod yn yr awyr agored ym myd natur ac rydych ar y llwybr i rywbeth arbennig iawn.

Dewch i ymuno gyda ni i weld pa wahaniaeth y gall ei wneud i chi. 

Mae yna nifer o sesiynau ar gael yn addas at bob lefel, cliciwch isod i weld calendr archebu Nordicymru.

Mae fwy o wybodaeth i’w gael ar y wefan www.nordicymru.com