Cerdded Nordig
Mae Cerdded Nordig yn ffordd wych o gadw’n heini drwy gydol y flwyddyn, ac oherwydd ei fod yn seiliedig ar gerdded arferol, mae’n addas i gynifer o bobl.
Gan ddefnyddio polion a thechneg arbenigol, mae Cerdded Nordig yn defnyddio hyd at 90% o gyhyrau’r corf, sy’n golygu ein bod ni’n cael ymarfer corff llawn.
Ychwanegwch at hynny fanteision lles o fod yn yr awyr agored ym myd natur ac rydych ar y llwybr i rywbeth arbennig iawn.
Dewch i ymuno gyda ni i weld pa wahaniaeth y gall ei wneud i chi.
Mae Nordicymru yn cynnal sesiynau Cerdded Nordig yn rheolaidd yn yr Ardd Fotaneg. Mae yna nifer o sesiynau ar gael yn addas at bob lefel, cliciwch isod i weld calendr archebu Nordicymru.