Gwnewch eich basged gron hyfryd eich hun o helyg ac amrywiaeth o ddeunydd a ganfyddir mewn gwrychoedd, gan gynnwys bedw, cwyrwialen, cyll, ac iorwg.
Dysgwch sut i adnabod a dewis deunydd addas ar gyfer gwehyddu gwrychoedd, ynghyd â thechnegau traddodiadol ar gyfer gwehyddu basged fach gron.
Rhaid archebu ymlaen llaw. £35 (£30 i Gonsesiynau & Aelodau’r Ardd Fotaneg).
Am fwy o wybodaeth, gan gynnwys sut i archebu, ffoniwch 01558 667150.