Telerau ac Amodau Noddi Mainc neu Goeden

Mae noddi, cyflwyno mainc a phlannu coed yn rhoddion i Ardd Fotaneg Genedlaethol Cymru (a elwir yma wedi hyn yn ‘GFGC’). Gallwch wneud cais amdanynt drwy ein siop, ac yn gyfnewid cewch amrywiol fuddiannau i ddiolch ichi am eich cyfraniad. .
Lle mae’r ddogfen isod yn defnyddio ‘ni’, mae’n cyfeirio at GFGC.
1) Mae pob archeb am eitem yn ddibynnol ar fod ar gael ac mae GFGC yn cadw’r hawl i wrthod darparu i unrhyw unigolyn neu gwmni. Mae GFGC hefyd yn cadw’r hawl i ddiwygio neu wrthod y
geiriad a ddarperir ar dystysgrifau a phlaciau.
2) Mae cyflwyno archeb gennych yn golygu cynnig i brynu’r nwyddau a nodir gennych ac nid yw’n rhwymo GFGC nes byddwn wedi derbyn eich archeb. Mae hyn yn golygu, os dangosir eitem ar ein
gwefan ond nad yw ar gael, neu os yw’r pris yn anghywir neu wedi ei ddisgrifio fel arall yn anghywir neu os dymunwn wrthod eich cynnig/cais am unrhyw reswm arall, ni fydd rhaid inni
werthu’r eitem honno ichi, a’r pryd
3) Yn fuan ar ôl i GFGC gael eich archeb, byddwn yn cadarnhau hynny drwy e-bost, yn rhoi manylion yr eitem(au) y byddwch wedi eu harchebu. Caiff y neges e-bost hon ei hanfon yn awtomatig
ac nid yw’n golygu bod eich archeb wedi ei derbyn.
4) Gallwn gysylltu â chi i gael rhagor o wybodaeth er mwyn i’ch archeb gael ei gwerthuso neu ei phrosesu.
5) Bydd derbyn eich archeb am eitem a chwblhau’r contract rhyngoch chi a GFGC yn digwydd pan fyddwn yn anfon yr eitem atoch. Ni fydd unrhyw eitemau ar yr un archeb nad ydym wedi eu
hanfon atoch yn rhan o’r contract hwnnw.
6) Mae prisiau a ddangosir yn cynnwys TAW lle mae’n gymwys. Mae gwybodaeth am bris a bod ar gael yn agored i newid heb roi rhybudd.
7) Gall eitemau a meintiau fod ychydig yn wahanol i’r lluniau a welir. Rydym wedi gwneud ein gorau i arddangos mor fanwl â phosibl liwiau’r eitemau sydd ar ein safleoedd. Fodd bynnag,
oherwydd y bydd y lliwiau a welwch yn dibynnu ar eich monitor chi, ni allwn sicrhau y bydd unrhyw liw ar eich monitor yn adlewyrchu’n gywir liw neu faint yr eitem pan fydd yn cyrraedd.
8) Chi sy’n gyfrifol am sicrhau cywirdeb y manylion a roir ar y ffurflen archebu. Byddwch yn ofalus wrth roi’r wybodaeth a ddefnyddir mewn unrhyw nwyddau neu dystysgrifau sydd i’w gwneud
yn bersonol yn ôl eich gofynion chi.
9) Ni fyddwch yn prynu’r goeden a fydd yn cael ei noddi, ei chyflwyno neu ei phlannu: bydd yn dal yn eiddo i GFGC.
10) Os bydd eich coeden yn marw, rydym yn cadw’r hawl i symud eich plac i goeden wahanol.
11) Peidiwch ag addurno eich coeden, os gwelwch yn dda. Bydd unrhyw addurn sy’n cael ei osod ar, o gwmpas neu dan goed, llwyni a meinciau yn cael eu symud oddi yno, gan fod gwneud hynny yn
groes i’n hamcanion cadwraeth a chynaliadwyedd ym mhob rhan o safle GFGC.
12) Peidiwch â phlannu dim byd o gwmpas eich coeden, os gwelwch yn dda. Bydd unrhyw hadau, bylbiau, planhigion, llwyni neu goed sy’n cael eu plannu heb ganiatâd yn cael eu symud oddi yno.
13) Peidiwch â symud dim byd sydd o gwmpas eich coed, os gwelwch yn dda. Bydd garddwriaethwyr yn rheoli’r safle ac yn sicrhau bod y mannau’n cael y gofal cywir.
14) Gall GFGC roi’r gorau i noddi unrhyw rai neu bob un o’r cynlluniau i noddi, cyflwyno a phlannu coed ar unrhyw adeg yn ôl ei ewyllys neu o bryd i’w gilydd gall amrywio, addasu,
ychwanegu neu ddileu pob neu unrhyw ran o’r Telerau a’r Amodau hyn. Bydd hysbysiad am newidiadau felly i’w weld ar y wefan
15) Bydd tystysgrifau wedi eu hargraffu am noddi coed yn cael eu postio gyda’r ail ddosbarth, hyd at ddeg diwrnod gwaith ar ôl gwneud yr archeb.
16) Bydd cyflwyno coed fel rheol yn cael ei wneud cyn pen wyth wythnos ar ôl i GFGC dderbyn eich archeb.
17) Fel rheol bydd coed yn cael eu plannu ddiwedd yr hydref neu ddechrau’r gaeaf bob blwyddyn. Cewch wybod pan fydd eich coeden chi wedi ei phlannu.
18) Mae eich coeden wedi ei gwarantu am deg mlynedd ar ôl ei phlannu. Os bydd eich coeden, am unrhyw reswm, yn marw neu’n cael ei niweidio, byddwn yn gosod un yn ei lle am ddim o fewn y
cyfnod o deg mlynedd.
19) Mae’r plac wedi ei gysylltu’n uniongyrchol i’r goeden yn unol â’r broses safonol o labelu coed yn GFGC.
20) Rhaid ichi beidio â chlirio na dinistrio dim byd o gwmpas eich coeden neu fainc.
21) Caiff y meinciau rydyn ni’n defnyddio yn yr ardd yn cael eu cynhyrchu o phlastig wedi’i ailgylchu. Maen nhw’n para hir iawn, ac er bod y gwarant am 10 mlynedd ar ôl adeg eu gosod fe
ddylent bara flynyddoedd yn hirach
22) Os bydd gennych unrhyw reswm i gwyno am unrhyw rai o’n cynhyrchion, anfonwch e-bost i orders@gardenofwales.org.uk os gwelwch yn dda.