Noddi Cod-bar DNA

Mae Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru wedi bod yn llwyddiannus wrth far-godio DNA pob rhywogaeth o blanhigyn blodeuol brodorol Cymru.  Ni fyddai hyn wedi bod yn bosib heb nawdd gan bobl Cymru.

Nid yw’n rhy hwyr i chi gymryd rhan; drwy fod yn noddwr byddwch yn ein galluogi i barhau yn ein gwaith ar Cod Bar DU: ein prosiect i greu codau-bar DNA i weddill fflora’r DU.  Am ond £25, dewiswch rywogaeth i’w noddi a byddwch yn rhan o brosiectau far-godio DNA cyffrous.  Mae pob rhodd wir yn gwneud gwahaniaeth.

Noddwch God-bar DNA am £25

Dewiswch y rhywogaeth y hoffech ei gefnogi o’r rhestr o blanhigion brodorol Cymru.  Yn ddiolch am eich rhodd, fe gewch:

  • Dystysgrif yn dangos y cod-bar DNA o’r rhywogaeth yr ydych yn ei gefnogi.
  • Eich enw yn ymddangos ar ein gwefan ger y rhywogaeth yr ydych wedi ei ddewis ac ar Barcode of Life Database (os na hoffech eich enw cael ei ddangos, rhowch wybod i ni).

Sut mae eich arian yn cael ei wario?

Drwy noddi cod-bar rydych yn gwneud cyfraniad uniongyrchol i’r costau cyfredol o gefnogi codau-bar DNA a’u defnydd yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru.  Bydd eich arian yn talu at y gost o echdynnu’r DNA; a’r gwaith o amlygu natur a dilyniant y genynnau yn y cod DNA.

Bydd hefyd yn cyfrannu at ein hymchwil i ddatblygu’r defnydd o godau-bar DNA.  Mae’n ymchwil presennol ar beillwyr  yn defnyddio’r cod-bar DNA i ddarganfod y planhigion pwysicaf i’n gwenyn mêl a’n peillwyr gwyllt.

Sut gallwch brynu cod?

Bydd rhaid i chi ddweud wrthym enw’r rhywogaeth o blanhigyn yr hoffech ei noddi (o’r rhestr isod), ynghyd â’ch enw a chyfeiriad a’r enw hoffech gael ar eich tystysgrif.

I noddi cod-bar DNA efo cerdyn credyd neu ddebyd, ffoniwch 01558 667168.  Os hoffech dalu efo siec danfonwch i’r Adran Wyddoniaeth, Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru, Llanarthne, Sir Gaerfyrddin, SA32 8HG drwy wneud y siec yn daladwy i Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru os gwelwch yn dda.  Os ydych yn ymweld â’r Ardd, gallwch roi eich manylion noddi a thalu yn Siop Botanica yr Ardd Fotaneg.

Os bydd mwy nag un person yn dewis cefnogi’r un rhywogaeth bydd yr holl enwau yn cael eu cysylltu i’r rhywogaeth yna.  Mae’r tystysgrifau byddwch yn eu derbyn, efo’r cod- bar DNA, yn cynrychioli ein diolch am eich cyfraniad ac nid oes ganddynt unrhyw werth masnachol.  Gofynnwyd am eich manylion ond i ni bostio’ch tystysgrifau a ni fyddant yn cael eu rhoi i unrhyw drydydd person nag asiantaeth

Diolch am eich cefnogaeth!