Mae’r gwyfyn Bwrned Pum Smotyn yn rhywogaeth wahanol iawn gan ei bod yn ddu gyda phum smotyn coch-binc ar ei hadenydd.
Mae’n eithaf cyffredin, ac i’w gael mewn cynefinoedd gwahanol, megis coetiroedd a glaswelltir, ar ddiwrnodau yn ystod yr haf.
Mae ei liwiau yn atal ysglyfaethwyr megis adar gan eu bod yn eu rhybuddio bod y gwyfyn yn wenwynig.
Mae’r benywod yn dodwy eu hwyau ar bys y ceirw, a dyma lle y gellir dod o hyd i’r lindys yn bwydo.
Cadwch eich llygaid ar agor amdanynt yn nolydd Gwarchodfa Natur Genedlaethol Waun Las.