Gardd y Gors

A wyddech chi fod ar blanhigion angen ocsigen i fyw, yn union fel chi?

Mewn pridd sy’n llawn dŵr, gall planhigion foddi’n llythrennol.

Ond does dim gwahaniaeth gan nifer o’r planhigion hyn fod eu traed yn wlyb.

Mae gan rai goesau cau sy’n gadael i’r ocsigen lifo i lawr at eu gwraidd – mae Iris pseudacorus yn enghraifft hardd.

Mae gan eraill, fel cynffon y gath leiaf Typha minima, wreiddiau sy’n egino oddi ar eu coesau dan y dŵr.

Mae’r lili ddŵr Nymphaea a’r blodyn gwyllt prin y lili ddŵr Gymreig Stratiotes aloides i’w gweld am ychydig fisoedd yn unig yn yr haf – mae ganddyn nhw goesau hirion sy’n caniatáu iddyn nhw nofio ar wyneb y dŵr. Gallant dreulio gweddill eu bywyd ar waelod y llyn.

Gall planhigion ar ymyl y llyn gael dail mawr gan nad yw colli lleithder oddi ar wyneb y dail yn broblem – sylwch mor fawr yw dail gold y gors Caltha palustris.