Effros

Euphrasia sp.

Mae’r planhigyn bach hardd hwn yn helpu cadw ein dolydd yn llawn blodau gwylltion.

Mae’r effros yn dwyn dŵr oddi wrth borfeydd gerllaw gan gadw’u niferoedd i lawr a chaniatáu i flodau gwylltion eraill amlhau – lle bydd effros fel rheol bydd nifer o flodau gwylltion eraill.

Pam yr enw effros? Daw‘r enw Cymraeg o’r Lladin euphrasia. Os ydych chi erioed wedi defnyddio diferion i leddfu anhwylder ar eich llygaid, mae’n weddol sicr y bydd effros wedi ei ddefnyddio yn y diferion – gan roi’r enw eyebright yn Saesneg. Mae wedi ei ddefnyddio ers canrifoedd i drin llygaid sy’n goch ac yn llidus. Ond a oedd golwg y blodau wedi dylanwadu ar hyn?