Y’chi chi eioed wedi sylwi sut mae olion sgerbydol coed derw a choed castan melys sydd wedi disgyn yn gallu para am ddegawdau? Mae ffwng y Tafod Bustach yn un o’r rhywogaethau ffwngaidd arbenigol, prin, sy’n medru pydru eu rhuddin.
Edrychwch am ei gorff hadol ar y goeden dderw fawr sydd wedi disgyn ar hyd llwybr Troedio Cefn Gwlad Cymru. Mewn tywydd llaith, mae’r ffwng hwn yn poeri hylif sy’n goch fel gwaed.