Cribell Felen

Rhinanthus minor

Yn ddiweddar cafodd Cribell Felen effaith ddramatig ar Waun Las.

Mae’n bwydo ar wreiddiau gwair, gan ladd y glaswellt trwchus oedd yn arfer gormesu rhai o’r dolydd hyn. Y canlyniad – mwy o le ar gyfer blodau gwyllt i wasgaru.

Mae ei hadau yn rhuglo ar ôl iddynt sychu – gyda dychymyg, gallech eu chwarae fel maracas.